Owain Glyndŵr
Ganwyd Owain Glyndŵr i deulu uchelwrol yng ngogledd-ddwyrain Cymru ym 1354. Roedd ei dad, Gruffudd Fychan, yn etifedd i dywysogion Powys Fadog, a hanai ei fam, Elen ferch Tomos ap Llywelyn o linach tywysogion Deheubarth. Owain Glyndŵr neu Owain ap Gruffudd neu Owain Glyndyfrdwy oedd y Cymro olaf i gael ei alw yn Dywysog Cymru. Arweiniodd y Cymry mewn gwrthryfel yn erbyn Brenin Lloegr rhwng 1400-1415, gwrthryfel a ddechreuodd ar 16 Medi, wrth i'w ymgyrch ymledu drwy'r gogledd-ddwyrain.
Ar 12 Ionawr 1405 arwyddwyd cytundeb ffurfiol gyda brenin Ffrainc i gynghreirio yn erbyn Harri IV, brenin Lloegr. Yna, ychydig dros fis yn ddiweddarach, ar 28 Chwefror 1405, arwyddwyd y Cytundeb Tridarn rhwng Owain a'i gynghreiriad Henry Percy, Iarll 1af Northumberland (tad Hotspur) ac Edmund Mortimer. Roedd y cytundeb yma'n rhannu Ynys Prydain (heb gynnwys yr Alban) rhyngddynt fel penaethiaid sofran, annibynnol. Fodd bynnag, er bod dogfen bwysig yn gosod allan bwriadau'r tywysog wedi ei llunio yn sgil cynulliad o'r Cymry ym Mhennal ger Machynllyeth ym mis Mawrth 1406, a bod llythyr wedi ei anfon gan Owain at y Brenin Siarl VI o Ffrainc yn amlinellu amodau ei deyrngarwch iddo, troi wnaeth llanw'r gwrthryfel. Dechreuodd Brenin Lloegr adennill rhai o'i diroedd yng Nghymru a chipio cestyll yn ol i'w feddiant. Ni wyddom lawer am hanes Owain wedi 1412 ac mae ansicrwydd hefyd ynghylch union amgylchiadau a dyddiad ei farwolaeth. Cofir amdano fel gwladweinydd medrus ac arweinydd dewr a fu'n ysbrydoliaeth i genedlaetholwyr ar hyd y canrifoedd. Dros y blynyddoedd daeth llawer i uniaethu Owain Glyndŵr gyda chwedl 'Y Mab Darogan', sef yr un fyddai'n dod i arwain y Cymry i fuddigoliaeth derfynol yn erbyn y Saeson.
Mae Medi 16eg, y diwrnod y dechreuodd y gwrthryfel, yn cael ei adnabod yn answyddogol fel Dydd Owain Glyndŵr. Mae’r casgliad hwn yn cynnwys sel Owain Glyndŵr, portreadau celfyddydol ohono ar ffurf paentiadau a chofebau, yn ogystal â ffotograffau a gweithiau celf o leoliadau o bwys yng Ngwrthryfel Glyndŵr
More collections with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment