Cadeirlan Aberhonddu: Cofeb Teulu'r Games, tua'r flwyddyn 1555
Disgrifiadau
Dyma'r unig ffigwr sydd ar ôl o'r beddrod a godwyd yng nghangell Cadeirlan Aberhonddu, tua'r flwyddyn 1555. Codwyd y gofeb er cof am y teulu Games, Aberbran a'u gwragedd. Honnir bod y ffigyrau eraill wedi'u llosgi gan filwyr Cromwell yn ystod y Rhyfel Cartref. Mae'r ddelw yn cynrychioli naill ai Anne, merch Syr William Vaughan, Porthaml, Miss Bodenham, Rotherwas neu Miss Morgan, Pen-y-Crug, gwragedd John, William a Thomas Games yn y drefn honno.
Roedd y teulu 'Games' yn ddisgynyddion i Dafydd Gam, milwr o Gymru a laddwyd ym Mrwydr Agincourt ym 1415. Roedd ymhlith y rhai a laddwyd ar yr ochr Saesnig ond nid, yn ôl y chwedl boblogaidd, cyn achub bywyd Harri V a chael ei urddo'n farchog ar y maes. Mae ei enw fel rhyfelwr dros achos y Brenin hefyd yn un o'r rhesymau am fethiant Owain Glyn Dŵr i ennill teyrngarwch yn rhannau o dde-ddwyrain Cymru.
Yn ôl y traddodiad, ceisiodd Dafydd Gam lofruddio Owain ym 1404. Ym 1410, neu'n ddiweddarach, syrthiodd Dafydd i freichiau Owain ac fe'i bridwerthwyd gan Ddistain Aberhonddu. Fe'i galwyd yn 'Dafydd Gam' oherwydd roedd naill ai ganddo lygatgroes neu dim ond un llygad.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment