Skip to main content

Chwarel Abercwmeiddaw

Chwarel Lechi oedd Abercwmeiddaw a fu'n gweithredu rhwng tua 1840au ac 1938. Fe'i lleolir yng Nghorris Uchaf, rhyw bum milltir o Fachynlleth. Roedd y chwarel wedi ei chysylltu gyda Reilffordd Corris trwy Dramffordd Corris Uchaf oedd yn cludo cynnyrch i Reilffordd y Cambrian ym Machynlleth. Bu i'r chwarel newid dwylo sawl gwaith yn ystod ei hoes ac roedd pa mor brysur oedd y chwarel yn amrywio. Ar droad yr ugeinfed ganrif mae'n debyg bod 200 o ddynion yn gweithio yno.
Mae Chwarel Abercwmeiddaw yn nodedig gan mai hi oedd yr unig chwarel yng Nghorris i ddefnyddio trên stêm i symud darnau o'r graig ar dramffyrdd o fewn y chwarel. Nodwedd arbennig arall oedd bod peiriant tyllu arbrofol wedi cael ei ddefnyddio yn 1864 er mwyn creu twnnel 'binocular' - anarferol iawn yn ei gyfnod.

Gwelediadau:
2602
Ffefrynnau:
0
Casgliad wedi’i greu:
18/11/2019

More collections with these tags

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment