Skip to main content

Alex ac Aled

Mae Alex ac Aled wedi bod yn ffrindiau ers nifer o flynyddoedd. Fe wnaethon nhw gyfarfod ar y bws i'r coleg, a daethant yn ffrindiau agos yn gyflym yn sgil eu hoffter o bêl-droed. Mae Alex yn cefnogi Arsenal, ac mae Aled yn cefnogi Chelsea.
“Dw i'n gwybod ei bod ni wedi cael cyfnodau da a gwael, ond mae hynny'n rhan o gyfeillgarwch” - Alex
Maen nhw'n sôn am fod yn agos, bron fel brodyr, a gellir clywed hyn yn eu cyfweliad. Maen nhw'n jocian am bêl-droed, eu chwaeth wahanol o ran cerddoriaeth, ond maen nhw hefyd yn cael sgyrsiau dwfn am golled a chariad. Maen nhw'n ymddiried yn ei gilydd pan mae pethau'n anodd, ac yn mwynhau chwarae pŵl a mynd allan gyda'i gilydd.
Yn sgil gwaith ac ymrwymiadau eraill, weithiau, mae llawer o amser yn mynd heibio heb iddynt siarad â'i gilydd. Ond mae eu cysylltiad a'u cyfeillgarwch yn amlwg yn y cyfweliad.

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment