Skip to main content

Clwb Rygbi Dinbych a'r Eisteddfod Genedlaethol

Ers ei sefydlu ym 1977, mae’r Clwb wedi cefnogi elusennau a digwyddiadau lleol a chenedlaethol, gan gynnwys y gefnogaeth a roddwyd i'r Eisteddfod Genedlaethol a gynhaliwyd yn y Rhyl ym 1985, ac yn fwyaf nodedig yn Eisteddfod 2001 yn Ninbych, yn ogystal â Gŵyl 2013, hefyd yn Ninbych. Daw’r dyfyniad isod o’r bennod “Clwb Rygbi Dinbych a’r Gymuned Gymraeg” yn y llyfr “Clwb Rygbi Dinbych – Calon Ein Cymuned”. “Pwy all anghofio cyfraniad amhrisiadwy’r Clwb i lwyddiant ein Prifwyl yn 2001? A pwy all anghofio chwaith ymweliad yr anfarwol Ray Gravell, Ceidwad y Cledd, â’r Clwb yn 2000 i hybu ymwybyddiaeth ac i helpu codi arian tuag at yr Ŵyl? Trefnwyd y noson o holi ac ateb a chwis i ddilyn gan Fenter Iaith Dinbych/Conwy gyda thua 40 yn bresennol a codwyd dros £100 tuag at yr achos. Yn ôl un person fynychodd y noson, ‘Does gen i ddim cof o unrhyw gwis yn cael ei gynnal, ond beth dwi’n ei gofio’n glir ydy fod Ray wedi treulio’r noson yn sgwrsio yn hollol naturiol efo pawb oedd yno, prynu diod i bawb, gan yfed diod feddal ei hun, cyn gyrru’n ôl adre i Sir Gaerfyrddin y noson honno. Roedd Ray Gravell yn y cnawd yn union fel y Ray Gravell oedd yn ymddangos ar y cyfryngau.’ Yn dilyn cais gan Bwyllgor yr Orsedd, cytunodd Richard Snelson, Ysgrifennydd y Clwb ar y pryd, a oedd hefyd yn aelod o’r Pwyllgor Gwaith lleol, i ddod o hyd i nifer o chwaraewyr Clwb Rygbi Dinbych i gario’r baneri ac i weithredu fel hebryngwyr yng ngwahanol seremonïau’r Orsedd megis y Cadeirio a’r Coroni a chroesawu aelodau newydd i’r Orsedd. Yn ôl Richard, ‘Profodd hyn yn anoddach na’r disgwyl . Dywedodd nifer dda eu bod am gymryd rhan, ond ar ddiwrnod y seremoni gyntaf, roeddem ychydig yn brin o hebryngwyr, gydag un chwaraewr (di-enw!) wedi methu cyrraedd mewn pryd yn dilyn noson galed o ddathlu dyfodiad yr Ŵyl i Ddinbych!’ Roedd nifer o chwaraewyr yn cymryd rhan yn ystod yr wythnos, gan gynnwys Osian Williams, Iwan ‘Ffrith’, Aled Jones (Peniel), Rhodri Sellers, Neil Addis, Dewi Snelson, Arwyn Jones a Bryn Davies. Ymunodd eraill ar gyfer rhai seremonïau. Un cynorthwy-ydd gwadd nodedig oedd Aneirin Karadog, a aeth ymlaen i ennill y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol 2016! Yn ôl Richard, ‘Roedd Aneirin yn mynd allan efo nith i mi ar y pryd ac yn aros efo ni, felly cafodd ei berswadio i wirfoddoli!’ Yn ogystal â hyn, ar fyr rybudd, yng nghanol yr holl ansicrwydd a achoswyd gan Glwy’r Traed a’r Genau, cytunodd swyddogion y clwb, gyda Tegid Phillips yn flaenllaw iawn yn dwyn perswâd, i dderbyn cyfrifoldeb am ofalu am y maes parcio dros gyfnod o ddeg diwrnod yr Eisteddfod. Yn ôl rhai, camgymeriad oedd derbyn y gwahoddiad mor agos at gychwyn yr Ŵyl, gyda nifer yn proffwydo byddai prinder o aelodau’n fodlon helpu. Felly aethpwyd ati i yrru erthyglau i’r Bigwn (ym mis Mehefin!) a phapurau bro eraill, y Denbighshire Free Press, y Vale Advertiser, y Daily Post ac ati, rhoi posteri i fyny o gwmpas y dref a’r cyffiniau, ac, wrth gwrs, cysylltu drwy lythyr gyda phob aelod o’r Clwb. A diolch i’r drefn, cafwyd ymateb ffafriol iawn gan ein haelodau a’r gymuned, gyda thua 180 o wirfoddolwyr yn cynnig eu gwasanaeth. Rwy’n siwr fod pawb gafodd y profiad o stiwardio’r maes parcio yn cytuno mai’r gweithgaredd hwn oedd un o’r rhai mwyaf cofiadwy, gwerthfawr a hwyliog yn hanes ein Clwb, gyda chymaint o bobl o gefndiroedd hollol wahanol, yn cydweithio’n hyfryd, yn aml dan amgylchiadau anodd iawn. Ac yn sicr mae gan Emyr Thomas atgofion melys iawn. “Tua 6:30yb, gyda phawb yn y safle stiwardio, daeth yr ail neu’r trydydd car i mewn i'r Maes - Renault Scenic tywyll, ac wedi parcio, allan o’r car ddaeth ‘Y Cawr’ ei hun. ‘Bore da Ray.’ ‘Bore da,’ a syllodd ar fathodyn CRD ar fy nghrys. ‘Aha!' meddai, 'un o fois Clwb Rygbi Dinbych,' ac aeth i gist ei gar. Tynnodd Gleddyf yr Orsedd allan yn ofalus, a'i ddangos i mi fel petawn i’n cael fy anrhydeddu - ei falchder yn amlwg o gael y cyfrifoldeb. 'Ma'n ddrwg gen i Ray, dwi di gael cyfarwyddiadau fod yr un gyllell, neu arf peryglus yn cael ei adael i mewn,' gan gadw ‘ngwyneb yn syth – ‘sgen i'm clem sut. 'Wel na,' meddai, 'hwn ydy Cleddyf yr Orsedd! Wyt ti'm 'n dallt, ellith y Seremoni ddim mynd 'mlan heb y Cleddyf!' 'Ray, mae'n rhaid i ti ddallt, y peth nesa bydd rhywun ishio dod fewn hefo rhyw machetés neu AK47, ma'r security yn dyn ofnadwy!’ 'Na, na, y Cleddyf ydy hwn!' Rhoddais wên fach i Ray, a winc fach hefyd. 'Dwi'n gwbod yn iawn be'n union sy' gen ti Ray, mae'n bleser i fod yma bore 'ma a dy gwrdd di – a’r Cleddyf.' Dalltodd Ray ‘mod i’n tynnu ei goes, rhoddodd y Cleddyf lawr yn y gist, dod ata’i, a ‘nghofleidio’n dyn (‘bear hug’, nid cwtch oedd hwn) a ‘nghodi oddi ar y llawr! 'Bois Rygbi Dinbych - gwd bois!’ Wna'i gofio'r bore yna yng Nghilfford tan ddiwedd f’oes.” Yn dilyn cyfnod o dywydd sych a phoeth iawn, cafwyd dilyw ar y dydd Mawrth a drodd y maes parcio yn gorsdir mewn dim o amser, gyda cheir yn mynd yn sownd yn y mwd. Ond drwy waith caled ac amynedd ein tîm o wirfoddolwyr, llwyddwyd i gael bob modur oddi ar y maes yn (weddol!) ddiogel. Ond nid felly ar y diwrnod blaenorol. Yn ôl Gerallt Evans, roedd stiwardio’r maes parcio yn agoriad llygaid. “Dysgais fod ambell i eisteddfodwr yn fwy penderfynol a ffyrnig nag unrhyw chwaraewr ar gae rygbi, wrth iddynt geisio cael y safle parcio gorau neu fod y cyntaf i adael y maes parcio. Ond poethi go iawn wnaeth pethau ar ddydd Llun 6ed Awst. Roeddwn rhywsut wedi cael f’ystyried yn ddigon cyfrifol i oruchwylio un o’r meysydd parcio ac wedi fy anrhydeddu gyda set radio. Ar ddiwedd y cystadlu, roeddem wedi llwyddo i gael trefn ac roedd y steddfodwyr bodlon yn gyrru o’r maes parcio mewn llinell daclus. Clywais lais Terry Bryer, ein Harchdderwydd Parcio y noson honno, yn gofyn yn bryderus, ‘Ydi popeth yn iawn yna?’. Atebais innau fod popeth yn berffaith a’r trefniadau yn gweithio’n dda. ‘Ond beth am y mwg?’ meddai Terry. Ceisiais dawelu ei feddwl drwy egluro fy mod wedi gweld car gydag ychydig o stêm yn dod o’r bonet yn gynharach (dwi’n credu mai ‘ôfyrhîtio’ oedd y term an-eisteddfodol i mi ddefnyddio yn hytrach na gorboethi!). ‘Wyt ti’n siŵr?’ gofynnodd Terry eto, a dyna pryd y penderfynais droi ar fy sawdl i weld Vauxhall rhyw druan o ymwelydd yn wenfflam. Yn nhraddodiad gorau’r Clwb, aethom ati fel tîm i arall-gyfeirio y ceir eraill a rhoi lle i’r gwasanaeth tân wneud eu gwaith. Diffoddwyd y tân heb anaf i neb, a llwyddwyd i gael gweddill y steddfodwyr o’r maes parcio heb ormod o oedi. Diweddglo hapus i’r digwyddiad felly, ar wahân i’r ffaith na fyddai Terry Bryer yn ymddiried ynof i gael set radio am weddill yr Ŵyl! Roedd y profiad o stiwardio’r maes parcio yn un bythgofiadwy ac yn esiampl o gryfder y Clwb gyda chwaraewyr, swyddogion a chefnogwyr o bob adran yn dod at ei gilydd i gefnogi’r ymdrech. Dysgais hefyd i drîn stiwardiaid parcio gyda llawer iawn fwy o barch ar ôl hynny!” Erbyn diwedd yr Eisteddfod, aeth Elfed Roberts, Cyfarwyddwr yr Ŵyl, allan o’i ffordd i ganmol yn gyhoeddus cyfraniad aelodau Clwb Rygbi Dinbych tuag at lwyddiant ysgubol yr achlysur, gan gyfeirio at amgylchiadau anodd ar ddechrau’r wythnos ac yn pwysleisio’r ffaith fod cynrychiolwyr o’r Clwb wedi bod yn bresennol o 7.00yb tan ar ôl 11.00yh bob dydd. Roedd Eifion Lloyd Jones, Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith, hefyd yn llawn canmoliaeth, gan gyfeirio at ‘rai Eisteddfodwyr a wnaeth bywyd yn anodd iddyn nhw.’ Wnawn ni ddim enwi neb! Mae’n amlwg fod ein cyfraniad wedi plesio, gan i’r Clwb dderbyn siec am £8,500, swm oedd yn llawer mwy na’r swm a gytunwyd yn wreiddiol, ac fe aeth yr arian hwn yn bell iawn tuag at dalu costau’r estyniad newydd sbon. Er hynny, nid pawb oedd yn siomedig na dderbyniodd y Clwb wahoddiad i ofalu am y parcio pan ddaeth yr Eisteddfod Genedlaethol yn ôl i’r dref yn 2013!!”

Gwelediadau:
1061
Ffefrynnau:
0
Casgliad wedi’i greu:
04/04/2019

More collections with these tags

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment