Skip to main content

Oral History of Popular Music in Merthyr Tydfil

Mae artistiaid cerddoriaeth boblogaidd Cymru wedi bod yn amlwg yn rhyngwladol ers tro byd drwy rai fel Tom Jones a Shirley Bassey yn ystod y 1960au, bandiau roc megis Budgie, Badfinger a Man yn ystod y 1970au, The Alarm a The Manic Street Preachers yn dod i'r amlwg yn yr 1980au canol i hwyr a’r Super Furry Animals a Catatonia yn ystod y cyfnod Cool Cymru a gafodd ei ddylanwadu gan Brit Pop o'r 1990au. Yn wir, mor ddiweddar â 2017, gellir gweld y pedwarawd o Ferthyr Tudful, Pretty Vicious, yn parhau â'r traddodiad hwn. Nod yr arddangosfa hon oedd tynnu sylw at y traddodiad gyfoethog y mae bandiau fel Pretty Vicious yn rhan ohoni.

Mae'r casgliad hwn yn cynnwys dwy ran - arddangosfa ac wythnos o weithgareddau fel rhan o’r Wyl Being Human 2018 a hyn i gyd i ddathlu hanes gyfoethog cerddoriaeth boblogaidd ym Merthyr Tudful.

Dathlodd yr arddangosfa yr hanes o weithgaredd cerddoriaeth boblogaidd ym Merthyr Tudful, rhwng 1955 a 1975, trwy luniau a chof. Mae'n dangos nid yn unig pwysigrwydd rhai o adeiladau allweddol Merthyr yn natblygiad cerddoriaeth boblogaidd, ond hefyd yr amrywiaeth gyfoethog o artistiaid, enwog neu beidio, sydd wedi cyfrannu at hanes cerddoriaeth boblogaidd yn y dref.

Cynhaliwyd yr arddangosfa yn y Redhouse ym Merthyr Tudful rhwng Ionawr 25ain 2018 a 24 Chwefror 2018. Fe'i curadurwyd gan yr Athro Paul Carr gyda chymorth gan Gareth Hughes. Cynhaliwyd gweithgareddau Gwyl Being Human rhwng Tachwedd 17eg - 24ain yn Llyfrgell Dowlais, ysgolion lleol a Theatre Soar.
Profile picture for user paul_carr_34456
Dyddiad Ymuno:
26/02/2019

Gweld pob un o’r 119 eitemau