Skip to main content

British Ugandan Asians at 50

Hanner can mlynedd yn ôl ar ddiwedd 1972, diarddelodd Idi Amin 70,000 o bobl Asiaidd o Uganda. Daeth 28,200 i Brydain a bu tua 1,500 o’r rhain yn lletya am hyd at chwe mis yn hen ganolfan y fyddin yn Nhonfannau ger Tywyn. Mae’r prosiect hanes llafar ‘British Ugandan Asians at 50’, a ariennir gan y Loteri Genedlaethol, wedi cyfweld â phobl leol a wirfoddolodd i helpu Asiaid Uganda, ynghyd â rhai o gyn-drigolion y gwersyll. Maen nhw’n disgrifio’r “croeso cynnes Cymreig” a roddwyd i’r alltudion enbyd, a’r effaith gafodd y bennod ar y dref. Ceir rhagor o fanylion am y bennod ryfeddol hon yn hanes modern Meirionydd, ac am brosiect ehangach BUA50, yn https://bua50.org
Profile picture for user berian_elias86_105696
Dyddiad Ymuno:
28/09/2022

Gweld pob un o’r 24 eitemau