Skip to main content

Datgloi Achosion y Siartwyr

Roedd Datgloi Achosion y Siartwyr yn rhan o brosiect 'Cynefin' gyda Llyfrgell Genedlaethol Cymru, gyda chefnogaeth Cronfa Treftadaeth y Loteri.
Roedd y prosiect yn trawsgrifio’r casgliad o Ymholiadau Ynadon mewn perthynas â Gwrthryfel y Siartwyr yn ne Cymru yn 1839. Roedd y dogfennau’n casglu ynghyd dystiolaeth llygad-dystion yn syth ar ôl gorymdaith y Siartwyr i Gasnewydd yn Nhachwedd 1839, a dyma oedd sail yr Achosion Llys am Deyrnfradwriaeth yn erbyn John Frost ac arweinwyr eraill y Siartwyr yn 1839-40.

Cafodd y prosiect ei ariannu gan arian torfol, gyda thrawsgrifiadau’n cael eu gwneud gan nifer o wirfoddolwyr o sefydliadau treftadaeth a chymdeithasau hanes lleol.
Profile picture for user sarah_daly_10004
Dyddiad Ymuno:
04/05/2016

Gweld pob un o’r 1,951 eitemau