Beryl Buchanan, Lleisiau o Lawr y Ffatri
Cadarnhaodd Beryl ei henw a’i chyfeiriad. Ei dyddiad geni yw: 5 Tachwedd, 1942. Roberts oedd hi cyn priodi. Ei chefndir: Cafodd ei geni yn Newport, de Cymru, a daeth i fyny i’r gogledd efo’i mam a’i thad pan oedd hi’n fabi. Roedd ei thad yn dod o Lanllechid. Aeth ei mam a’i thad i weithio ar fferm ei hyncl yn ?Corbery?. Ei nain fagodd hi. ‘Oedd Nain wedi dwyn fi (fyny)mewn ffordd.’ Roedd ganddi saith brawd a dwy chwaer. Addysg: Ysgol Llanllechid ar sgwâr Rachub, yr hen ysgol ac yna agorodd ysgol newydd (ddim yn cofio’r flwyddyn). Yna i Ysgol Dyffryn Ogwen a gadael yn 1957 yn 15 oed. ‘Roedd hi ‘jyst isho mynd i weithio achos roedd Nain yn weddw – jyst isho dod â pethma i’r tŷ i helpu allan.’ Doedd hi ddim yn drist yn gadael yr ysgol er ei bod yn reit dda efo arlunio. Swydd gyntaf – Mona Products yn Menai Bridge. Aeth i’r lle dôl a gyrron nhw hi yna am interview. Cred mai tua ’58-59 dechreuodd hi yno. Mae’n cofio ei bod yn gweithio yno pan gafodd Manchester United y ddamwain awyren (1958). Mae’n cofio gwrando arno fo ar y radio. Doedd hi ddim yn keen iawn ar y lle ‘ond ‘na fo oedd on waith’. Bu am ddwy-dair blynedd yno. Roedd y ffatri yn cynhyrchu nicyrs a T shirts i Marks and Spencers . Doedd neb arall o’r teulu yno. Mae’r adeilad wedi’i dynnu i lawr rwan. Ochr draw i’r Eglwys Gatholig. Doedd neb o Fethesda yno ond roedd rhai oedd wedi priodi pobl o Fethesda yn gweithio efo hi. 4.13 Gwnïo coleri yn sownd i’r T Shirts a sleeves, a rhoi lastig yn y nicyrs, a gwnïo gussets oedd hi’n ei wneud. Cafodd interview – ddim yn gymhleth. Doedd hi ddim yn hapus yno- - roedd y ffatri’n bell iawn ac isho codi’n gynnar yn y bore a thrafaelio. Ar motor beic yr oedd hi’n mynd yna – ar gefn moto beic ei hyncyl a oedd yn gweithio yn Saunders-Roe. A dod adre yn y nos, trwy bob tywydd. Dydy Beryl ddim yn meddwl bod pobl eraill yn edrych i lawr ar ferchaid y ffatri. Cofio ar y diwrnod cyntaf mynd i’r cantîn a’r supervisor yn mynd â hi i’r rŵm yma – dangos iddi sut i wnïo ar y mashîn ac ‘Awê â ni’. Doedd hi ddim yn nabod neb ac yn shei yr adeg honno – teenager. Clocio i mewn bob bore a dechrau gwnïo ‘a gwnïo fel coblyn ‘te achos doedd dim cyflog i ni ga’l. Dim ond be’ oeddan ni’n gneud. Ella bod ni’n cael ceiniog neu ddwy am gosod colar ar T shirt, ella rhyw ddwy geiniog am neud sleeve yn sownd – fel ‘na. Doedd na’m basic wage. A felly oedd rhaid i chdi fynd fel coblyn ar y mashîn ‘de i neud cyflog i fyny.’ Bu hi’n gwneud yr un gwaith o hyd tra bu hi yna. Dynion oedd yn pacio, ac roedd mechanic i’r mashîns. Dyna’r unig ddynion oedd yno. A hefyd un manager – dyn. Merched oedd y supervisor a’r manageress. Roedd pawb yn gwneud yr un peth yno – dim angen sgiliau arbennig. Dim llawer o hyfforddiant ‘roedd o reit hawdd a deud y gwir.’ 8.12 Roedd lot o ferched priod yno. Ansicr sut byddent yn ymdopi gyda theulu. Genod ifanc heb briodi oedd y rhan fwyaf. Doedden nhw ddim yn cael cyflog iawn – dim ond beth oedden nhw’n wneud. Hyd yn oed ar ol gwneud 5 o goleri dim ond swllt fyddech chi’n ei gael. Roedd y cyflog yn wael ofnadwy. Roedd hi’n methu rhoi llawer i’w Nain - os byddai mashîn yn torri lawr – wel dyna fo! Arhosodd y gyflog yr un fath tra bu hi yno. Roedd lot yn codi row am y peth – ‘cega, isho mwy o gyflog, ond doedd neb yn gwrando. Oeddan nhw’n strict ofnadwy yna.’ Cael eu talu bob wythnos mewn pecyn pae. Roedd rhai yn cael mwy o gyflog nag eraill am eu bod yn gweithio’n ffastach. A fwy experienced na hi. Dim ond ychydig bach o’i phres roedd hi’n ei gael iddi hi ei hun. Roedd yn gorfod gofyn i’w Nain am fenthyg o hyd. Byddai’n gwario’i phres ar smoc fach ac allan i’r pictures once in a blue moon. Doedd dim perks o weithio yno, na chael prynu nwyddau’n rhatach. ‘Os oeddan ni’n sâl ‘ylly ‘te, efo petha misol ‘te, a ella crafu fe off ni ?? … ella bo ni’n gneud sanitary towel yn y lle, efo’r stwff - rejects nicyrs, neu rwbath fel’na, crafa fo ffwrdd … (chwerthin).’ 2 Dydy Beryl ddim yn meddwl bod undeb llafur yno. Roedd ‘na ryw ddwy â digon o geg i siarad drostyn nhw. ‘Hen fochyn o ddyn’ oedd y Manager. Roeddan nhw’n strict ofnadwy. Doedd y gweithwyr ddim yn cael eu trin yn deg efo cyflog yno. Dylen nhw fod yn cael cyflog a bonus – ond dim felly roedd hi. Roedd y supervisor yn cerdded yn ôl ac ymlaen. Os oedd gynnoch chi complaint byddech yn mynd ati hi. 13.08 Mae’n cofio hi a’i ffrindiau yn mynd lawr i’r pier ac roeddan nhw’n genod drwg a deud y gwir – direidus ‘te, a gweld cwch bach ar y Menai Straits, a dyma nhw’n chansio hi a dechrau rhwyfo, A riportiodd y dyn ar y pier nhw i’r Manager,’Wel am row! Naethon ni byth wedyn – oeddan ni’n lwcus bo ni’n fyw a deud y gwir!.‘ Doedd dim iwnifform – dim ond eu dillad eu hunain – oferôl arferol. Roedd y gwaith yn beryglus – y nodwydd yn mynd drwy’r bys. Ac roedd yn rhaid cael y mechanic yna i dynnu pob dim allan. ‘Roedd yn rhaid gwatshiad –roedd y mashîns yn mynd fel bom.’ Mae’n cofio un neu ddwy o genod yn cael nodwydd trwy’u bys. Dim iawndal. Roedd nyrs yn y ffatri. Os oedden nhw’n sal roedden nhw’n cael mynd i fyny grisiau bach, i fel atig fach, roedd gwely single bed yna i orfadd. Mae’n cofio bod yn sal un tro a gorwedd yno drwy’r dydd. Doedd dim rheolau Health and Safety adeg honno. Roedd cantîn bach yno. Dim ond rhyw ddau ddyn oedd yn pacio ac un ar tractor bach oedd yn cario pethau, y Manager ei hun a dau fecanic. Roedd gan y ffatri fiwsig – radio a loud speaker. Y bosys oedd yn dewis beth oedd arno – tebyg i Workers’ Playtime a news. Roedd e’n lle swnllyd i weithio gyda’r peiriannau yn mynd drwy’r dydd lawr grisiau a fyny grisiau. Tua 50 mashîn mewn un ystafell zzzzz drwy’r dydd. Roedden nhw’n gweithio reit agos at ei gilydd ac yn gorfod gweiddi i siarad. Roedden nhw’n cael siarad cyhyd â’u bod nhw’n gweithio. Os oeddech chi’n siarad gormod oeddech chi’n cael row. Roedd y supervisors yn cerdded – Gladys oedd enw ei supervisor hi. Dim smocio wrth weithio ‘Oeddach chi’n cael smocio yn y cantîn a that’s it.’ Tynnu coes efo’r mecanics ‘Roedd gormod o dwrw yna .. i wrando na clywad neb yn deud jôcs. … On i’n sedêt pan on i’n ifanc!’ 18.17 Gweithio pum niwrnod – Llun i Gwener, dim shifftiau yna. Gweithio wyth tan bump. Clocio i mewn ac allan – ac mae’n credu eu bod yn clocio amser cinio hefyd. – os oedden nhw’n mynd allan i’r stryd, i’r caffi neu rywbeth amser cinio ‘ a gwrando ar juke box neu 3 rywbeth fel yna’. Roedd yn rhaid iddyn nhw ddod â lunch box efo nhw neu fynd allan i gael bwyd. Roedd dynas yn gwneud jyst te yn unig yno. Brêc o ryw ddeg munud yn y bore, trichwarter awr neu awr amser cinio a rhyw ddeg munud yn y prynhawn. ‘A dwi’n meddwl nath o cytio’n brêc pnawn ni off, ac oeddan ni’n cael mynd adra’n gynt.’ Gwyliau – y ffatri yn cau ond dim tâl achos bonus roedden nhw’n ei gael. Cau am bythefnos, a chael Dolig ond nid yw’n cofio’r gwyliau banc eraill. Doedd hi ddim yn mynd i ffwrdd ar wyliau – doedd hi ddim yn gallu ei fforddio fo. Roedd y rhan fwyaf o’r gweithwyr yn byw yn Sir Fôn, felly doedd ganddi hi ddim ffrindiau yn fan’ma o’r ffatri. Os oedd galw personol – angladd neu rywbeth ‘jyst colli a that’s it ‘te.’ Roedd y ffatri tua saith milltir un ffordd iddi hi. Roedd yn rhaid cychwyn tua hanner awr wedi saith yn y bore. Doedd dim cymdeithas i’r merched y tu allan I’r ffatri, heblaw amser cinio pan fydden nhw’u gyd yn mynd allan yn un gang. Pan oedd Ffair Borth yna roeddan ni jyst yn mynd rownd y ffair yn pnawn. Dwi’n cofio hogyn y ffair yn cael lectric sioc yn y ffair. A dwi’n cofio ni genod yn mynd i Catholic Church i weld o yn ‘i arch. ‘Nesh i ddim mynd ‘te. Ond oedd na lot yn mynd yna – oedd o’n hogyn del. 22.50 Dim parti Dolig. Dim clwb cymdeithasol. O safbwynt mwynhau – Oedd o’n iawn ond don i ddim yn licio’r ffordd – mi fasan nhw fod wedi gallu trîtio pobol yn well. Roedd y genod yn grêt i weithio efo nhw, oedd. Oedd y genod yn ffantastig, ond oeddan nhw ychydig bach yn strict yna – y Manager ‘de. Bu’n Ferranti’s ar ol gadael – o ddechrau’r 60au. Llawer gwell lle a chael cyflog a bonus. Agosach at adre hefyd. Roedd hi’n jack of all trades yn fan’no. Roedd y ffatri yn gwneud meters lectrig, Roedd hi’n polisho spindles i roi mewn meter a fframia’r meter – dyna ei gwaith hi. Roedd hi’n gwneud lot o bethau yna – sodro a phob dim. Roedd Ferranti’s lawer mwy hefyd ac roedd laninations yna yn ogystal. O ran maint: Tair gwaith mwy yn gweithio yn Ferranti’s nag yn Mona Products. Bu’n gweithio yn laminations Ferranti yn gwneud topiau sports cars a cyfars lledar iddyn nhw. Roedd hi llawer hapusach yn Ferranti – roedd llawer mwy o hwyl yno. Dwi’n cofio ni’n cael – reit yn laminations ‘ma – ac oeddan ni wedi mynd â booze i mewn ac oedd pawb ‘di deud yn laminations ‘ma ‘Reit pawb i ddod â potal i fewn ac roedd yr hogia ‘di dod â ryw gasgan bach fel hyn o gwrw ac wedi cuddiad nhw yn stores, - jyst cyn torri am Dolig ‘de, oedd hi, a dyma ni’n deud, ‘Reit genod, amsar cael drink bach ‘wan. A dyma ni’n mynd, stopio gweithio a drink. Ac oddan ni’n hannar honci .. a pwy ddaeth i fewn ond y Bós ac oeddan ni gyd yn canu ac yn merry ac yn gneud dim strôc o waith. ‘Right’ medda’r Manager ‘you’ve all been sacked!’ Oeddan ni’n ista fan’na’n chwerthin ‘te, doedd dim otsh, nag oedd, prun ag oeddan ni wedi cael sac neu beidio. Eniwê aeth un o’r 4 hogia at y management a siarad efo nhw a ballu, achos roedd ganddyn nhw foi Union a gaethon nhw’u jobsys yn ôl. A ‘Apologies mawr – it’s Christmas!’ Oeddan ni gyd wedi meddwi – Wel am laff!’ Roedd lot mwy o ddynion yn Ferranti. Mae’n cofio boi yn ei hanfon i’r stores i ofyn am sky hook – dim ffasiwn beth yn nag oedd? Bu yn Ferranti’s nes symud i Hotpoint – ddim yn keen ar Hotpoint, yn Llandudno Junction. Cyn iddi briodi yn 1968 yr aeth hi am ychydig fisoedd i Hotpoint. Roedd hi’n cael llifft nol ac ymlaen yno. Ond yna dychwelodd i Ferranti’s – y ddwy ohonyn nhw. Edrych yn ôl ar ei hamser: Atgofion melys am Ferranti’s – roedd wrth ei bodd, Byddai’n hoffi mynd yn ôl yno heddiw i weld ydyn nhw’n gneud yr un peth ag oedden nhw’n neud. Dydy hi ddim wedi cadw cysylltiad efo’i chydweithwyr, ond bydd yn eu gweld weithiau . Cael plant wnaeth iddi hi orffen gweithio – full stop! Dysgodd rywbeth trwy weithio mewn ffatri, ac roedd hi’n grêt yn Ferrantis. Hyd: 30 munud
More stories with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment