Margaret Humphreys, Lleisiau o Lawr y Ffatri
Cadarnhaodd Margaret ei henw, ei chyfeiriad a’i dyddiad geni, sef 22/02/1938
Ganwyd Margaret ym Metws y Coed, a symudodd hi lawr efo'r gwr pan gafodd o drosglwyddiad yn ei swydd efo’r Comisiwn Coedwigoedd. Roedd Margaret yn gwneud gwely a brecwast cyn hynny. Roedd ei thad yn ffermio ar smallholding ac yn gweithio rhan amser gyda'r comisiwn coedwigoedd. Roedd pump o blant yn y teulu ac roedd ei mam yn wraig ty. Aeth hi i’r ysgol ym Metws y Coed ac wedyn yn y Drenewydd.
Collodd hi ei mam pan oedd hi'n 16 oed. Ar y pryd, roedd Margaret yn bwriadu mynd ymlaen i wneud arholiadau advanced yn yr ysgol ond ar ôl marwolaeth ei mam, penderfynodd hi adael a dod adre am ddwy flynedd i gadw ty i'w thad. Dim ond ei chwaer ifancach oedd gartref ar y pryd. Pan ddaeth pethau'n well, aeth hi allan i weithio, yn gyntaf yn coginio mewn gwesty ym Metws y Coed ac roedd hi'n y swydd hon am 7 mlynedd, tan iddi hi briodi yn 25 oed yn 1963. Parhaodd i weithio am 2 flynedd arall tan i'w mab gael ei eni ac wedyn roedd hi'n cadw gwely a brecwast “roedd hi’n anodd byw dyddiau hynny.” Doedd y gwely a’r brecwast ddim rownd y flwyddyn, o’r Pasg tan ddiwedd yr haf.
Mae wedi bod yn Carno am 42 o flynyddoedd. Cafodd hi swydd o fewn pythefnos yn Laura Ashley ond roedd hi wedi gwneud ymholiadau cyn rhoi'r deposit lawr ar dy. Roedd y gwr yn dod o Garno felly roedd o'n nabod Meirion Rowlands, brawd Gwlithyn (VN013) ac roedd yn manager director i'r cwmni, a chawson nhw air efo fo, yn deud bod nhw'n symud ac yn tybio a oedd gwaith iddi yn y ffatri. “O, ie, oedd na waith, unrhyw amser, i ni adael o wybod pan oedden ni'n symud. A dw i'n deud, 'wel dw i ddim eisiau diwrnod cyfan o achos y plant.' 'Part time, fine.'” Doedd Margaret ddim yn nabod pobl yn Carno ond roedd ei gwr wedi bod yn gofyn am dai a rhaid bod rhywun wedi awgrymu ei bod hi'n siarad efo Meirion.
Doedd hi ddim wedi gwneud gwaith gwnïo o'r blaen, ond dyna'r un o'r ddwy swydd y byddai hi wedi hoffi eu wneud ar ôl gadael yr ysgol - coginio neu wnïo. Doedd dim rhaid iddi gael cyfweliad “Meirion addawodd base na waith i mi pan oedden ni'n symud. Ac es i lawr yna, un pnawn, nes i ddim ringio, ac mi welais i o, a dyna fo'n dued 'wel, cychwyn yfory', y diwrnod wedyn.”
Roedd plant ganddi hi - roedd ei mab yn cychwyn yn yr ysgol uwchradd yn y Drenewydd a'r ferch yn yr ysgol yn Carno. Cafodd hi oriau o naw tan dri. Swydd ar yr overlocker oedd ei gwaith cyntaf yn Laura Ashley, er bod ganddi ddim syniad sut i ddefnyddio'r peiriant hwnnw. Wnaethon nhw roi hyfforddiant iddi “wel, swn i'n deud am chwe wythnos, ond mewn chwe wythnos roeddech chi'n gwybod dipyn.”
Dywedodd Margaret fod yn ddiawledig mynd i mewn i ffatri. “Oedd o ddim yn ddiawledig, ond do, fues i dipyn, cofiwch, yn dod i arfer. Oedd na gymaint yn y ffactri i nabod pawb. Un person on i, ynde, a pawb arall yn nabod un yn syth, fel 'tai, 'oh, new girl working today, she's from Carno,' ond roedd rhaid i mi nabod pawb ond oedd?, mi gymerodd amser, cofiwch. Do, dipyn. Ac i ddeud y gwir, o bob ty, rhywun yn gweithio yn Ashleys, ylwch, gwr a gwraig a phlant os oedden nhw wedi tyfu i fyny.”
10.45 Oedden nhw'n siarad yn ystod y dydd, ond dim cymaint. Doedd y cyflog ddim yn dda, ond dydy hi ddim yn cofio ei chyflog cyntaf. Eistedd mewn rhesi yr oedd y merched. Doedd y gwaith ddim yn undonog, achos roedd lliwiau gwahanol i'w gwneud, felly roedd na dipyn o newid. “Deudwch, bod chi ar goch am oriau, roeddech chi'n meddwl 'O, nefoedd faint o chwaneg sy gen i o'r pethau cochion ma' ac ydych chi'n cael eich newid wedyn i liw gwahanol.” Roedd Margaret yn gweithio ar flowsys, ffrogiau, sgertiau, gobennydd nos. Roedd gwahanol steiliau. Doedd hi ddim yn hoffi dillad Laura Ashley am ei chorff hi, roedd hi'n meddwl roedden nhw i bobl ifanc. Er hynny, roedd hi wedi prynu 'seconds' a hefyd defnydd i wneud ei phethau ei hun gartref. Roedd ganddi beiriant gartref, dim ar y dechrau, ond ar ôl i ddillad fynd tramor i gael eu gwneud, roedd tua dwsin ohonynt yn dal ar y peiriannau a daethon nhw â'r soft furnishings i mewn, yn y Drenewydd.
Roedd y ffatri yn dipyn o faint pan ddechreuodd hi, tua chant ar y peiriannau gwnïo. Roedd y pwysau i wneud y gwaith yn gyflym, o dan y system piecework' yn ddiawledig, meddai. “Mae 'na ddwy ffordd o feddwl am piecework, ond dim un ffordd ddim yn gweithio. On i yn feedio tair machinist, flat machinists, on i ar yr overlocio ac roedd y dillad yma'n mynd yn ôl ac ymlaen. Mae'n anodd explainio. On i'n gwneud ychydig yn overlocio ac oedden nhw'n gorfod mynd yn ôl i'r flat machine i wneud eu tamaid nhw. Mae'n andros o anodd explainio, gwahanol stage o ffrog, deudwch.” Tacluso'r gwniadau mae overlocker yn gwneud, i atal nhw rhag dod i ffwrdd. Weithiau roedd hi'n gwneud pethau eraill tra’i bod hi'n aros i'r dillad gyrraedd, ac weithiau byddai dau fwndel yn dod ar yr un pryd, yn dibynnu ar y steil. Efo ffrogiau efo pin tucks, byddai'r flat machine yn gwneud yr holl pin tucks yn gyntaf ac wedyn byddai'r overlocker yn tacluso'r seams. Bydden nhw'n gwneud cannoedd o ffrogiau yn ystod y dydd ond doedd y ffatri ddim yn swnllyd iawn, er efallai ei bod hi wedi dod i arfer efo'r swn. Roedd y radio ymlaen, ac roedd pobl yn canu, ond yn gweithio hefyd.
18.35 Er mwyn dod i nabod pobl yn well ac yn gynt, roedd Margaret yn mynd i gyfarfodydd Merched y Wawr. Roedd bysys yn dod o bob man yn dod â gweithwyr i mewn. Doedd hi ddim yn teimlo fel person oedd dim yn perthyn gan fod hii wedi dod o'r gogledd. Roedd hi'n mynd allan am ddiod efo nhw a dod i’w nabod yn well.
Doedd y ffatri ddim yn waith caled, ond rhaid bod yn organized i drefnu'r oriau gwaith o gwmpas cadw ty. Roedd y gwr y cael brechdanau i ginio yn ystod y dydd ond eisiau pryd o fwyd pan fyddai’n cyrraedd adre yn y nos. Roedd y plant yn cael cinio'r un fath. Roedd y bachgen hyn yn mynd ar y bws i'r Drenewydd, ac roedd hi'n mynd â'r ferch lawr i'r ysgol yn Carno i ddechrau ac wedyn roedd hi'n mynd ei hun. Roedd hi'n gorffen am dri a'i merch yn dod adre am
3.30. Doedd Margaret ddim yn flinedig ar ôl diwrnod o waith, achos roedd hi'n ifanc, meddai. Ar ddydd Gwener, roedd y ffatri yn gorffen am hanner dydd. Roedd hi'n dod adre, cael paned, ac wedyn glanhau'r ty i gyd, ac yna siopa dydd Sadwrn yn y Drenewydd. Doedd dim bywyd cymdeithasol, dim ond hi a'r gwr a'r plant.
Roedd pobl eraill yn gwneud rhan-amser, roedd y dewis yno. Roedd Laura Ashley “Oedd hi'n andros o feddylgar i rieni fod adre i ofalu am y plant. Roedd hi (eisiau) i famau gweithio er mwyn iddyn nhw gael bywyd gwell, ‘swn i feddwl, ac eto dyna be oedd y part time, roedd hi eisiau mamau adre hefyd.”
Roedd y ffatri yn iawn, yn gynnes, ac yn gyfforddus “yr unig beth oedd o'ch blaen chi trwy'r dydd oedd y peiriant.” Roedden nhw'n cael brêc yn y bore a thost, cinio ond roedd hi'n mynd â brechdanau, a brêc yn y prynhawn. Doedd hi ddim yn bwyta yn y cantîn achos roedd hi'n cael cinio gyda'r nos. Roedd hi'n cymysgu efo merched eraill y ffatri. Saesneg oedd iaith y ffatri oni bai bod dwy neu dair ohonynt a oedd yn Gymry Cymraeg yn sgwrsio gyda'i gilydd, ond mewn grwp, Saesneg oedd yr iaith. “Wel, oedd yr Ashleys yn Saesneg i gychwyn, ond oedden, Saesneg oedden nhw'n siarad yn y ffatri.” Hyd yn oed heddiw, mae Margaret yn teimlo bod o'n haws esbonio rhywbeth yn Saesneg nag ydy yn y Gymraeg neu yn ysgrifennu Saesneg. Saesneg roedd ei gwr yn siarad hefyd a'r plant wedi dysgu Cymraeg yn yr ysgol. Doedd hi ddim yn disgwyl Cymraeg, chwaith, yn Carno, achos mae'n dref Seisnig, meddai.
Doedd hi ddim ar yr overlockers ar ôl i'r dillad stopio yn y ffatri, felly pan oedden nhw'n gwneud soft furnishings, roedd hi ar beiriant yn gwneud dillad gwely a llenni. Roedd cymaint o archebion roedd yn rhaid iddyn nhw symud i ffatri newydd yn y Drenewydd, ffatri fwy. Caeodd y ffatri yn Carno. Ei gwaith hi oedd gwnïo llenni. Mae ffatri yn gwneud llenni heddiw yn y Drenewydd o hyd.
30.00 Ar ôl chwe mis yn gwnïo llenni, clywodd Margaret eu bod nhw'n apelio am oruchwylwyr a phenderfynodd hi drio am y swydd. Cafodd hi'r swydd ac roedd hi'n edrych ar ôl rhyw ugain o ferched a oedd yn gwnïo. “A gorfod i chi wneud yn siwr bod chi'n medru dangos i'r genod.” Doedd hyn ddim yn swydd hawdd, gan fod pob person yn wahanol a, deudwch fod gan rywun broblem, roedd yn rhaid i Margaret ddangos iddi beth oedd hi wedi’i wneud yn gam mewn ffordd andros o neis, achos roedd y ferch honno’n gorfod ei ail wneud o, a doedd rhai ddim yn hoffi gorfod ail wneud pethau. “Peidio bod yn rhy bossy. Dach chi efo genod yma drwy'r dydd, dach chi eisio i nhw wneud cyflog da, dach chi eisio gwaith taclus, a 'sa dach chi, wel, yn trîtio'r genod, dydyn nhw ddim yn mynd i wneud y gwaith i chi, nag ydyn. Chi yn dal i deimlo 'dw i'n part o producio rhywbeth taclus.'” Os oes rhywun ddim wedi gwneud y swydd yn dda, efallai y byddai’n rhaid i Margaret awgrymu ei bod hi'n cael rhyw hyfforddiant ychwanegol. Doedd o ddim yn swydd anodd, ac efallai roeddech chi'n teimlo bod chi yno trwy'r dydd a dim yn gwneud dim byd, ond roedd eich cyflog yn dod. Roedd y piecework wedi mynd, a'r straen efo fo. Roedd hi'n mwynhau fod yn oruwchwylwraig ond roedd yn rhaid gwybod llawer. Clywodd hi ar ôl ymddeol 'you were the best we ever had.'
Mae'n deud bod y ffatri wedi newid cymaint a bod pobl yno a oedd yn cael swydd a ddim yn gwybod sut i’w gwneud hi. Roedd hi llawn amser fel oruchwylwraig. Roedd hi ar hyfforddiant am dri mis i gychwyn. Roedd hi'n cael llai o gyflog, meddai, nag oedd hi'n cael achos roedd hi'n ennill mwy ar piecework. Ond doedd dim pwysau arni, er bod y pwysau o edrych ar ôl y genod. Aeth y cyflog i fyny ar ôl dwy flynedd ond doedd hi ddim eisiau dweud faint roedd hi'n ei ennill fel goruwchwylwraig.
Fel bron pob peiriannydd eraill, mae Margaret wedi cael nodwydd trwy'i bys. Mae pawb yn deud bod chi ddim yn beiriannydd tan i hynny ddigwydd. Roedd rhaid reportio fo ac ysgrifennu fo yn y llyfr damweiniau. Pan oedd hyn wedi digwydd iddi, wnaethon nhw adael y nodwydd yn ei hewin a mynd a hi at y meddyg i'w dynnu allan. Mae'r peth yn digwydd mor sydyn dydy o ddim yn brifo ar y pryd “Ges i un trwy'n ewin, a wnaethon nhw dynnu’r nodwydd a gadael y nodwydd yn ym mys i, ac at y meddyg, ynde.” “Mae'n swnio'n boenus ofnadwy.” “Wel, oedd o wedi digwydd mor handi, doedd o ddim yn brifo am, wel deudwch chi, am ryw chwarter awr. A throbbio wedyn, ynde, o, ie. But you can't sew until you've had a needle in your hand.” Bydden nhw'n cael tetanus jab gan y meddyg pan oedd hyn y digwydd.
O ran iechyd a diogelwch, dydy Margaret ddim yn cofio dim byd mawr, dim yn cofio damweiniau mawr. Doedd dim union “no, no, no, no no” Doedd hi ddim yn aelod o undeb. Roedd pobl yn mynd at y rheolwyr trwy'r goruchwylwyr. Roedd 'na drafod am gyflog trwy'r amser er bod y cyflog yn mynd i fyny bob blwyddyn, dim gan lawer.
Roedd ei bywyd hi yn mynd yn well, gan fod dau gyflog i ddod i mewn i'r ty. Roedden nhw'n mynd ar wyliau i lan y môr pan oedd y ffatri yn cau am bythefnos yn yr haf. Mae'n cofio grwp o weithwyr o Garno yn mynd i Minehead am bythefnos, gan gynnwys hi a'i theulu. Roedd parti Nadolig, dim byd i wneud efo'r ffatri, roedd y gweithwyr yn mynd allan i ryw hotel. Dydy hi ddim yn cofio os oedd y cwmni yn trefnu hyn, gan fod grwpiau yn mynd efo'i gilydd - y genod un noson, a'r gyrwyr noson arall ayyb. Roedden nhw'n cael 'supervisors' night out' gan fod tipyn o supervisors. Roedd 'na ddau ddwsin o fyrddau a dwy o genod ar bob bwrdd, yn torri tua chant par o lenni. Yn y Drenewydd yr oedd hyn.
45.00 Roedd Margaret yn y ffatri am 25 o flynyddoedd. Mae hi wedi ymddeol ers dros 20 o flynyddoedd. Cafodd hi barti ffarwelio - dau barti; un yn Carno efo'i chydweithwyr ac un arall efo'r teulu a ffrindiau tu allan i'r ffatri. Gwnaeth y cwmni roi cloc haul (sundail) iddi fel anrheg gadael sydd nawr yn yr ardd. Wrth edrych yn ôl, mae'n cofio'r profiad fel un hapus, amser lle gwnaeth ffrindiau da. Doedd hi ddim yn barod i ymddeol yn 60 oed ond cafodd hi shingles ac roedd mewn cymaint o boen. Mae ganddi beiriant adre a overlocker, yr oedd wedi’u prynu o'r ffatri pan oeddent yn newid i beiriannau eraill, ac mae wedi gwneud llawer o bethau fel llenni i hotels a chanolfannau lleol. Wedi cael ei thalu am hyn mae hi, nes at flwyddyn yn ôl.
Wnaeth hi ddim setlo ar ôl ymddeol a gwnaeth y bos ei ffonio hi, ar ôl i'r ffatri symud yn ôl i Garno, a gofyn iddi wneud dau ddiwrnod yr wythnos. “Wel, on i'n more excited, 'sa chi'n deud mod i wedi cael y loteri.” Roedd yn dipyn o job mynd yn ôl ar ôl blwyddyn, yn enwedig gan nad oedd hi'n dychwelyd fel goruwchwylwraig. Ond dywedodd hi wrthynt fod hi ddim eisiau mynd yn ôl ar y peiriant felly cafodd hi swydd gwnïo’r llenni â llaw. Ond, meddai'r boss, bod y swydd wedi newid, a bod o'n llawn amser. Dywedodd bod hi'n dal yn gwnïo gartref ac roedden nhw'n hapus iddi wneud hynny, felly aeth hi'n ôl llawn amser, pum diwrnod yr wythnos. Roedd hi'n gwneud swyddi gwahanol, fel oedd yn galw, fel arholi'r (inspect??) bleinds neu weithio mewn gwasanaeth cwsmeriaid. Roedd hi wrth ei bodd yn gwneud hynny ac yn dda am weld lle roedd y problemau.
Roedd hi yno am ddwy flynedd yr ail dro ac roedd hi'n meddwl bod yn rhaid iddi adael yn y diwedd achos roedd y cyflog yn achosi trafferth efo pensiwn y wlad - dydy hi ddim yn cofio'n iawn.
Hyd: 56 munud
More stories with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment