Skip to main content

Rosie Jones, Lleisiau o Lawr y Ffatri

Cadarnhaodd Rosie ei henw, ei chyfeiriad a’i dyddiad geni, sef 29/10/1940 Unig blentyn, ganwyd ar Ynys Môn, ar fferm ei nain. Roedd ei thad ar y ffyrdd a'i mam yn gweini. Aeth i’r ysgol yn Llangefni, i’r Ysgol Ramadeg. Gadawodd yr ysgol yn 16 oed, ar ôl lefel O. Roedd hi'n meddwl aros ymlaen yn yr ysgol ond daeth swydd i fyny yn y ffatri llaeth ac roedd hi eisiau gwneud honno, a chafodd hi'r swydd ar yr amod y byddai hi'n gwneud yr arholiadau roedd hi wedi paratoi ar eu cyfer yn yr ysgol, a dyna beth wnaeth hi. Swydd barhaol ar ôl tri mis oedd honno, ac aeth hi yn ôl yn yr haf i drïo'r arholiadau, gydag amser i ffwrdd o'r ffatri. Roedd hi'n gwneud teipio mewn coleg hefyd o dan yr amod hwn (?) Cafodd hi o hyd i’r swydd ar ôl clywed yn yr ysgol bod swyddi yn mynd yn y ffatri llaeth, mae'n credu mai ar ôl y gwasanaeth bore oedd hyn. Dydy hi ddim yn cofio beth wnaeth hi i ofyn am y swydd ond mae'n cofio'r cyfweliad efo dyn roedd hi’n ei nabod beth bynnag. Doedd hi ddim yn byw ar y fferm yr adeg honno ond roedd y teulu yn cadw ychydig o ddefaid. Byw yng Ngaerwen yr oedd hi ac roedd y ffatri yn Llangefni, felly roedd hi'n gorfod dal y bws. Roedd hi wedi mynd am swydd arall, mewn banc, swydd roedd hi wedi clywed amdani yn y gwasanaeth bore hefyd ond roedd yn well ganddi wneud swydd y ffatri achos roedd hi eisiau gwneud gwaith yn ymwneud ag amaethyddiaeth. Y Milk Marketing Board oedd piau'r ffatri. Ond ar ôl clywed ei bod hi wedi cael y swydd, doedd hi ddim yn siŵr wedyn, yn teimlo'n nerfus i fynd i mewn i griw o weithwyr ar ôl bod ar ei phen ei hun. Ond roedd hi'n nabod Mair (VN033) a oedd yn gweithio yno'n barod. Yn fuan ar ôl dechrau, cafodd hi appendicitis ond wnaethon nhw gadw ei swydd iddi ac anfonodd y staff focs o siocledau 'Black Magic' iddi. Mae'n cofio ei diwrnod cyntaf, yn gwisgo overalls a wellingtons, yr oedd hi wedi’u prynu yn Llangefni. Chwaraeodd rhyw ddyn dric arni ychydig o ddyddiau ar ôl iddi gychwyn yno – ei rhoi hi i eistedd ar silff a phaentio ei wellingtons gydag wyneb ?? Hwyl oedd hyn, meddai, ac 1 roedd pawb yn ffrindiau yno ac roedd yn lle difyr iawn. Roedd tua hanner cant yno, rhwng y merched, y dynion a'r gyrwyr a oedd yn mynd â'r poteli o gwmpas, gan gynnwys i'r ysgolion. Gwaith Rosie oedd profi'r llaeth a oedd yn dod i mewn o'r ffermydd mewn caniau - cymryd sampl o'r can, profi fo yn y lab, ac roedd tal y ffermwr yn dibynnu ar safon y llaeth. Y broses brofi oedd fod pob merch yn codi nifer o samplau, cynhesu nhw i 104F/40C, cwlio nhw i lawr i 68F/20C, ac wedyn eu sugno nhw i mewn i pipettes ac wedyn eu rhoi nhw mewn butyrometers, rhoi acid ar eu pennau, ac wedyn roedd yn mynd i centrifuge wedyn. Roedd popeth yn sterile. Wedyn roedd rhesi o'r samplau yn sefyll mewn dŵr poeth am ychydig ac roedd y saim yn dod i'r wyneb ac roedd y merched yn 'darllen' y canlyniadau ac yn gweithio allan y 'solids to fat' ratio. Roedd Rosie o dan hyfforddiant yn y cychwyn, yn dysgu'r broses uchod yn y swydd, yn ystod ei thri mis o brawf. Gweithio yn y lab roedd hi, yr unig lab oedd yno, chwech o ferched i gyd, ond ar ôl ei hamser hi, roedd dynion yn gweithio yn y lab hefyd. Roedd ‘na rai merched hŷn yno, wedi bod yno cyn iddi hi ddechrau, ac roedd y rhai ifancach yn cael llawer o jobsys bach doedd y gweithwyr hyn ddim eisiau eu gwneud. Roedd y merched hyn yn dda iawn, meddai, a phawb yn ffrindiau mawr. 15.30 Ar wahân i'r lab, roedd swyddfa yno, a 'mess room' lle roedd y gweithwyr yn mynd i gael paned a brechdanau. Doedd dim cantîn yno pan ddechreuodd Rosie, ond daeth un wedyn, meddai. Yn y cyfnod cynnar, roedd y rheolwr hefyd yn dod i'r lab i fwyta ei ginio, ac roedd menyw a oedd yn glanhau yno hefyd yn cynhesu bwyd i'r rheolwr a'r gweithwyr. Ar ddydd Sadwrn neu ddydd Sul, pan nad oedd y rheolwr yno, roedd y gweithwyr yn cael 'fry up' yn defnyddio'r peiriannau lab i gynhesu'r bwyd mewn sosban. Doedden nhw ddim i fod i fwyta yn y lab, ond yn y 'mess.' Roedd un rheolwr a chwpl o foremen yno. Yn nes ymlaen, roedd caws a phowdwr llaeth yn cael eu gwneud yno, a llawer o dancyrs yn mynd a'r cynnyrch i ffwrdd. Pan oedd Rosie yno, cymerodd cwmni Cadbury's y ffatri drosodd ac roedden nhw'n gwneud siocled. Crynwyr oedd y Cadbury Brothers, ac amser Nadolig, doedden nhw ddim yn mynd i hotel a doedd dim diodydd,mynd ar drên o Langefni i Landudno i ryw gaffi, ac amser Nadolig, roedden nhw'n cael prynu bocsys o siocled ar 'offer' a siocledi 'seconds' am bris da, neu fagiau o fisgedi. Roedd y cwmni yn trefnu tripiau i Cadbury's yn Birmingham hefyd. Pobl deg iawn oedd y teulu, meddai. Dydy Rosie ddim yn cofio'n iawn pa bryd yr oedd Cadbury's piau'r lle. Pryd o fwyd mewn caffi a sioe wedyn roedden nhw’n ei gael adeg y Nadolig,, yn Llandudno, a oedd y costio tipyn i'r teulu Cadbury's ond roedden nhw'n bobl annwyl. 22.00 Doedd dim overtime yn y ffatri o dan Cadbury's ond time in lieu, sef amser yn lle arian. Dwy bunt yr wythnos oedd cyflog Rosie. Daeth y Bwrdd Marchnata Llaeth cymerodd y ffatri’n ôl wedyn, a bryd hynny roedd overtime i gael, sef arian. Roedd yn hollol wahanol yno o dan y ddau, meddai; pan oedd Cadbury's yno, roedd popeth yn lliw siocled, gan gynnwys y tanceri. Ond roedd y gwaith yr un peth, ond roedd 'na fwy o fynd allan efo Cadbury's, i lefydd fel Lerpwl. Doedd y gweithwyr ddim yn cael llaeth am ddim ond roedd pobl yn gallu cael llaeth yn syth o'r loris a oedd yn ei gasglu fo o'r ffermydd a thalu amdano ar ddiwrnod cyflog. Roedd Rosie yn gweithio o 8.30, clocio i mewn, clocio allan i ginio hefyd, ac yn gorffen am bump. Roedd rhai o'r merched yn gwau yn ystod amser cinio, achos roedd awr ganddyn nhw. Roedden nhw'n gweithio pum diwrnod yr wythnos, ond roedd y ffatri ar agor saith diwrnod, achos y godro gwartheg, felly os oedd yn rhaid iddi weithio dydd Sadwrn neu ddydd Sul, roedd hi'n cael dydd llun neu ddydd Mawrth i ffwrdd. Byddai'r rheolwr yn dod â'r order iddynt ac yn deud 'wythnos yma, ti'n off dydd Llun, wythnos nesaf, dydd Mawrth,' ayyb. Doedd y lab ddim yn lle oer i weithio achos roedd ‘na bopty yno i gynhesu'r samplau. Roedd rheilffordd yn agos. Ar draws y rheilffordd roedd y ganolfan IA ac roedd dynion yno i fynd rownd y ffermydd i roi artificial insemination i'r gwartheg yn eu ceir '35s.' Yn y ffatri, roedd sŵn mawr, o'r caniau yn dod oddi ar y loris, a chael eu rholio mewn i'r ffatri, a mynd trwy'r peiriannau. Ac roedd arogl y llaeth yn dod o'r caniau yn ofnadwy. Caniau mawr oedd y rhain ac roedd yn rhaid gwneud y gwaith yn gyflym. Roedd pob darn o offer yn stainless steel, popeth yn cael ei sterleisio yn y popty. Roedd overalls y merched yn cael eu llosgi gan smotiau o sylphuric acid, ac weithiau croen y gweithwyr os nad oeddynt yn ofalus. Roedd hyn yn gyffredin a doedd neb yn cwyno, jyst rhoi eu dwylo o dan ddŵr. Roedden nhw i fod i wisgo gogls pan oedden nhw'n gweithio efo'r acid yma ond byddent yn anghofio yn aml. Roedd y cwmni yn dda yn dilyn rheolau iechyd a diogelwch, 'rhaid iddynt fod' meddai Rosie. Roedd yn rhaid i'r merched a oedd yn profi'r llaeth gael colour blindness test gan y meddyg, achos roedden nhw'n defnyddio litmus paper i wneud y profi hyn, ac roedd y papur yma yn newid lliw fel rhan o'r prawf. Roedd gwahanol shades of blue er mwyn testio'r llaeth, felly roedd yn rhaid i'r merched gael llygaid da. Os oedd y llaeth yn ddrwg, roedd yn mynd yn ôl i'r ffermwr y diwrnod wedyn efo label coch arno, a byddai'r ffermwr yn colli ei dal. Byddai'r llaeth da yn mynd i'r tancer i lefydd eraill a rhywfaint yn aros i gael ei roi mewn poteli a oedd yn mynd rownd Sir Fôn i gyd. Roedd dynion yn rhoi'r llaeth yn y poteli, gyda pheiriant - poteli mawr a hefyd poteli bach i'r ysgolion. Roedd rhai o'r loris yn mynd i ysgolion yn unig, achos roedd cymaint ohonynt. 35.00 Felly, gwaith y merched oedd yn y lab; roedd y gwaith arall o gasglu'r llaeth o'r ffermydd, dod â'r caniau oddi ar y loris i mewn i'r ffatri, llenwi'r poteli, a mynd â nhw i ffwrdd i gyd yn waith dynion. Roedd y dynion yn cael mwy o gyflog na'r merched, yn ôl Rosie, a doedd y merched ddim yn meddwl dim byd am hyn ar y pryd. Efo'i chyflog, roedd Rosie yn cadw rhywfaint. Roedd hi'n byw gartref. Roedd hi'n after mynd i Fangor ar ddydd Sadwrn ar y bws ac “os oedd gynnoch chi chweugian, roeddech chi'n dda iawn.” Byddai'r chweugian yma yn talu'r bws, bag o sglodion a mynd i'r pictiwrs. Roedd hi'n talu bws trwy'r wythnos i fynd i'r ffatri a doedd hi ddim yn cofio rhoi arian i'w mam. Hi oedd yr unig blentyn. Aeth ei chyflog i fyny yn ystod yr amser y bu hi yno, ond dydy hi ddim yn cofio faint. Roedd undeb yno, ond doedd y merched ddim yn aelodau, dim ond y dynion. Mae'n cofio rywdro fod streic yno, ac aeth y dynion allan, o achos eu cyflogau, mae'n debyg. Mae'n debyg fod y dynion yn ddig fod y merched yn cario ymlaen i weithio, achos doedd dim undeb ganddynt, yn ystod y streic yma. Roedd ei gŵr, cyn iddynt briodi ond yn canlyn, yn y streic (?) Priododd Rosie yn 1972, ar ôl cwrdd â fo yn y gwaith, ond roedd hi wedi symud o'r hufenfa erbyn hynny ac yn gweithio i'r cyngor. Roedd hi yn y ffatri laeth am ddeng mlynedd rhwng 1957-67. Cafodd hi gyfweliad efo'r cyngor am swydd oedd yn yr adran 'licensing' ac roedd yr adeilad hwn yn agos iawn i'r ffatri laeth.Gwnaeth un o'r bwrdd cyfweld ofyn pamroedd hi'n trïo am y swydd pan fyddai hi mor agos at ei chyn-waith. Ateb Rosie oedd, nad oedd hi wedi meddwl am hynny, ond cafodd hi'r swydd. Gadawodd hi'r ffatri laeth achos roedd hi eisiau ennill mwy o gyflog ac roedd y cyngor yn talu yn dda a hefyd yn cynnig cyfle gwell i symud ymlaen o ran gyrfa. Roedd hi'n mwynhau’r gwaith yn yr hufenfa ond bod y cyflog ddim yn codi llawer. Hefyd roedd hi wedi dysgu sut i deipio ac yn meddwl ei bod hi'n 'wastio fy hun' yno. Yn y lab, roedd hi'n deud ei bod hi’n gynnes y tu mewn ond roedd yn rhaid i'r merched fynd allan weithiau i brofi'r llaeth ar y 'deck' a hynny mewn pob math o dywydd, felly roedd yn rhaid iddynt 3 roi'u cotiau amdanynt. Roedd y merched yn rholio'r caniau weithiau ac roedden nhw'n drwm iawn. Mae'n cofio un adeg, roedd hi'n rholio can llaeth llawn dŵr mewn cystadleuaeth Ffermwyr Ifanc yn Fali. Ar un adeg, bu’n rhaid iddi fynd i Gaernarfon i brofi llaeth mewn hufenfa yno a chododd tancer hi am chwech o'r gloch y bore i fynd â hi yno. Profi oedd hi drwy'r amser y bu hi yn yr hufenfa, y tro cyntaf. Ar ôl gorffen yn y cyngor i gael plant, aeth hi yn ôl i'r lab, i'r cantîn ac i'r swyddfa i weithio. Ffoniodd yr hufenfa hi i ddeud bod angen help arnyn nhw ac roedd hi'n mynd i mewn pan oedd galw am gyfnod. Doedd hi ddim eisiau gwneud hyn yn y dechrau ond roedd hi'n mwynhau gwneud y swyddi gwahanol ac bu wrthi am flynyddoedd, ond heb fod yn barhaol, achos roedd plant ganddi a’i rhieni yn mynd yn hen, a hefyd anifeiliaid. Ond roedd ei gŵr yn dal yno, ac roedd o yno am 42 o flynyddoedd, yn gyrru'r tanceri. Wrth edrych yn ôl dros y deng mlynedd o waith parhaol, mae'n cofio'r cyfeillgarwch, pawb yn glên iawn ar y cyfan. Mae'n cofio weithiau byddai ffermwyr oedd wedi cael llaeth drwg yn ôl yn dod i mewn i gwyno, dod i'r lab weithiau i ddadlau efo'r merched a oedd wedi testio'r llaeth. Roedd rhywun unwaith, un o'r gweithwyr, wedi trïo dwyn powdwr llaeth ond cafodd o/hi ei stopio. O ran y damweiniau efo'r acid, doedden nhw ddim yn eu reportio nhw. Roedden nhw i fod i wisgo menig rwber ac roedd y llosgi yn digwydd pan oedden nhw ddim wedi rhoi'r menig amdanynt. Felly, doedden nhw ddim yn eu reportio nhw, achos y diofalwch yma. Sefyll oedd y merched i brofi ac eistedd i lawr i weithio allan y canlyniadau, e.e. faint o fats a faint o solids oedd yn y llaeth. Roedd 'na swyddfa un ochr y lab i wneud hyn ac roedd yr adroddiadau hyn i mynd i'r ffermwyr. Roedd merched yn gorfod pwyso'r llaeth hefyd ac os oedd yn fyr, roedd yn rhaid ysgrifennu at y ffermwr, ac byddai o ar ei golled ar ddiwedd y mis pan gâi’r ffermwyr eu tal. Hyd: 55 munud

Related items

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment