Skip to main content

Llongddrylliad Ynys Sili: Hanes Peilot a'i Long Ysgafn?

Yr Llongddrylliad - nifer o hunaniaethau posibl

Mae ymchwil sy'n cael ei wneud gan y Comisiwn Brenhinol i longddrylliadau o amgylch arfordir Cymru yn awgrymu bo y cwch yn un o nifer posibl - gan gynnwys badlong pren a elwir yn 'Cyfeillgarwch' a oedd yn cario llwyth o lo pan aeth yn sownd ar lan Ynys Sili ar 30 Ionawr 1902; neu smac y Robert a oedd yn cario llwyth o garreg pan ddaeth i'r lan ar 27 Tachwedd, 1882; neu gwch camlas yr Eliza a adeiladwyd yng Nghas-gwent ac a ddefnyddiwyd yn y masnach tywod a graean.

Mae dogfen hefyd yn cynnwys cyfeiriadau at fath o long sy'n parhau i fod eiconig bron i 90 mlynedd ar ôl iddi  fynd  allan o wasanaeth - y Llong Ysgafn (Pilot Cutter) Môr Hafren.

Cynnal peilot

Mae peilot yn forwr sy'n arwain llongau trwy ddyfroedd peryglus neu brysur, fel porthladdoedd neu aber afon, ac fel arfer byddai'n dod o un o'r cymunedau arfordir lleol lle'r oedd cronfa o wybodaeth oherwydd canrifoedd o bysgota a morio. Byddai'r peilot yn ymuno â'r criw ar gyfer y cyfnod y byddai angen rhywun gyda phrofiad a gwybodaeth ychwanegol ar y llong.

Yn y 17eg ganrif, rhoddwyd rheolaeth gyffredinol y gwasanaethau beilota yn aber Afon Hafren a Môr Hafren i borthladd Bryste . Parhaodd y drefn hon tan 1861, pan lwyddodd cynghorau trefi Caerdydd, Casnewydd a Chaerloyw i berswadio'r senedd i basio Mesur Peilota Môr Hafren a oedd yn caniatáu i bob cyngor benodi ei Fwrdd Peilota ei hun. Roedd pob peilot  ar y pryd yn gyfrifol am gynnal a chadw ei gwch hun. Dros amser, mae siâp cragen unigryw a rig hwylio wedi datblygu i gwrdd â'r angen am gwch a allai barhau i weithio mewn tywydd drwg, ac ennill y ras i fod y cyntaf i gyrraedd y llongau oedd yn denu'r ffioedd peilota uchaf.

Roedd gwaith peilot yn beryglus iawn ac yn golygu byrddio llong fawr o gwch rhwyfo bychan a oedd yn cael ei gadw ar fwrdd llong ysgafn. Y dull arferol oedd gofyn i feistr y llong i leoli ei long yn erbyn y cerrynt, gan wneud  lloches rhag y gwynt. Byddai'r llong ysgafn yn hwylio i gysgod y llong, ac fe fyddai'r peilot a bachgen neu brentis yn rhwyfo draw at yr ysgol ar ochr y llong. Byddai'r llong ysgafn yna'n hwylio i mewn i'r gwynt unwaith eto ac yn troi i ddod yn ôl i gysgod y llong i godi'r cwch rhwyfo a'r bachgen / prentis. Roedd angen medrusrwydd ar gyfer y fath symudiadau. Mae'r CHCC yn cynnwys cofnodion llongddrylliadau 66 llong beilot ysgafn, ac o'r rhain cafodddd 37 eu colli yn dilyn gwrthdrawiadau, suddodd 6,  ddrylliwyd 16, ac mae 6 lle nad oes achos yn hysbys. Mae'r ystadegau hyn yn cadarnhau perygl y fenter - hynny yw, rhoi llong hwylio fechan yn fwriadol yn agos i longau llawer mwy.

Ym mis Ionawr 1882, rhoddodd Bwrdd Peilota Caerdydd ganiatâd i'w fflyd o tua 65 llong ysgafn i ddefnyddio'r angorfa fach sydd y tu ôl i Ynys Sili pan oedd 'gwynt dwyreiniol yn ystod llanw trai'. Mae cyfeiriadau i longau peilot yn mynd i'r lan yma yn cynnwys y LOTTIE ar 15 Hydref, 1886; cwch peilot yn perthyn i Charles Rowles ym mis Gorffennaf 1893; a'r BARATANACH a suddodd ar ei hangorfeydd i'r gogledd o Ynys Sili ar 27 Mawrth 1916. Roedd gan y BARATANACH tri pherchennog yn ystod ei hoes - Thomas Rosser, Edward Parry a William S Williams - ond ar adeg o golled roedd yn perthyn i deulu a oedd yn ei defnyddio yn y fasnach arfordirol.

A allai Llongddrylliad Ynys Sili fod yn un o'r llongau ysgafn hyn?

See the report: http://www.coflein.gov.uk/en/site/309865/digitalSULLY+ISLAND+WRECK%2C+S… - mae'r tâp mesur yn dangos yr holl ...

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment