Cae’r-gors, Rhosgadfan, Sir Gaernarfon
Y Tyddyn
Er bod tu blaen Cae’r-gors yn awgrymu bod iddo gynllun arferol bwthyn dwy-ystafell a beudy ynghlwm wrtho, o fynd i mewn fe wêl yr ymwelydd batrwm anarferol i fwthyn, sef ei fod yn ddwy ystafell oddyfnder. Yn ogystal â’r gegin/parlwr arferol yn nhu blaen y tñ, ceir ynddo ail ystafell wely a llaethdy yn ogystal â llofft bach bach uwchben y parlwr. Byddai’r teulu wedi ennill ei incwm o’r chwarel a thrwy ofalu am ychydig erwau o dir yn union y tu ôl i’r bwthyn – tir digon llwm, fel yr awgryma’r enw Cae’r-gors. Dangosir y tu mewn fel y gallai fod wedi edrych adeg plentyndod Kate Roberts ar ddechrau’r ugeinfed ganrif, ac yn oes Victoria y gwnaed y rhan fwyaf o’r dodrefn sydd yno. Rhaid bod bywyd wedi bod yn galed ar y llethr wyntog hon. Fel yr ysgrifennodd Kate Roberts yn ei hunangofi ant, Y Lôn Wen (1960):
‘Pobl yn ymladd yn erbyn tlodi oedd pobl fy nghyfnod i … Ni welsom erioed gyfoeth, ond
cawsom gyfoeth na all neb ei ddwyn oddi arnom, cyfoeth iaith a diwylliant.’
Kate Roberts
Er mai oherwydd i’r llenor Kate Roberts (1891–1985) fyw yng Nghae’r-gors yn blentyn yr aethpwyd ati i ddiogelu ac adfer y tyddyn hwn, mae’n bwysig fel mynegiant o ffordd o fyw gweithwyr y chwareli llechi yn niwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Brithir bryniau ardal Rhosgadfan â thyddynnod fel Cae’r-gors, ac mae llawer ohonynt wedi’u hestyn a’u moderneiddio. Yn wahanol i lawer ardal lle codwyd cartrefi pwrpasol i’r gweithwyr diwydiannol, trigai teuluoedd y chwarelwyr yma mewn bythynnod bach unigol a bythynnod pâr digon gwledig eu golwg.
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment