Sut oeddwn ni'n bwy: Grantiau Gwella Tai yng Nghymru 1959-60
O'r blaen: dim system dŵr poeth, tŷ bach na baddon
Ym 1949, roedd tua 10 miliwn o bobl yng Nghymru a Lloegr yn byw mewn tai hŷn heb system dŵr poeth na thŷ bach na baddon sefydlog yn y tŷ. Byddai pobl yn ymolchi mewn baddon mawr dun o flaen y tân yn yr ystafell fyw, ac roedd tai bach y tu allan mewn buarthau, ac yn aml yn cael eu rhannu â chymdogion. Nid oedd yn anarferol i bobl ddefnyddio ffyrnau glo o hyd, ac roedd pobl yn coginio gan fwyaf ar ffwrn haearn bwrw yn yr ystafell fyw. Yn aml dŵr oer yn unig oedd ar gael yn y cartref.
Cyflwynwyd grantiau gwella wedi'u cynllunio i godi safon cartrefu am y tro cyntaf yn Neddf Tai 1949. Ond roedd y cynllun yn ddewisol ar ran yr awdurdodau lleol ac yn y bum mlynedd gyntaf ni foderneiddiwyd ond 10,000 o dai. Daeth yr ymchwydd yn hawlio'r grant gwella ar ôl cyflwyno 'Deddf Prynu Tŷ a Chartrefu' ym 1959, a ddiwygiodd ddeddf 1949 a gorfodi i Awdurdodau Lleol roi grantiau i bobl a oedd yn gwella'u tai hyd at safon o bum pwynt:
1. Baddon neu gawod sefydlog
2. Basn ymolchi
3. Sinc
4. W.C. (Water Closet; tŷ bach)
5. System dŵr poeth ac oer.
Bwriad y llywodraeth oedd y byddai gan bob tŷ ystafell faddon o fewn 15 mlynedd. Nifer y tai a gymeradwywyd i gael grant ym 1959 oedd 80,000.
“Gwellwch Eich Tŷ Gyda Grant”
Ym 1959, i hybu'r cynllun newydd, cyhoeddodd y Llywodraeth daflen o'r enw "Improve Your House with a Grant" ac ychydig yn ddiweddarach, llyfryn o'r enw "New Grants for Better Homes: How to Claim them".(Grantiau Newydd ar gyfer Cartrefi Gwell: Sut I'w Hawlio) Esboniodd Mr Henry Brooke, y Gweinidog Cartrefu a Llywodraeth Leol ar y pryd, yr angen i gyhoeddi'r cynllun yn bellach yn Nhŷ'r Cyffredin ym mis Tachwedd 1960:
'Rydym yn gwneud y cyfan y gallwn o ran rhoi cyhoeddusrwydd i'r grantiau sylfaenol a'r grantiau gwella a'r grantiau trawsnewid, ond pe gall Aelodau anrhydeddus ysgogi mwy o geisiadau o'u hetholaethau, neu awgrymu sut y gallwn roi mwy o gyhoeddusrwydd i'r cynllun, fe fyddwn yn ddiolchgar iddynt. Fe allwch werthfawrogi'r hyn mae'r ffigurau hynny'n golygu o ran hapusrwydd dynol pan ydych wedi gweld mam sydd, o'r diwedd, wedi cael baddon go iawn gyda dŵr poeth o'r tap i olchi'r plant, yn lle baddon tun ar y llawr a dŵr o degell.'
Mae'r angen hwn i roi cyhoeddusrwydd i'r cynllun a darluniadau o'r gwelliannau ar y pryd i'w gweld mewn grŵp o 23 o ffotograffau du a gwyn, a dynnwyd mewn gwahanol rannau o Gymru gan y Swyddfa Wybodaeth Ganolog ym mis Awst 1959 a mis Medi 1960. Arddangoswyd y ffotograffau ar stondin y Weinyddiaeth Gartrefu yn Sioe Frenhinol Amaethyddol Cymru 1960.
Wedyn: wedi gwella, ond yn sylfaenol o hyd
Mae'r ffotograffau'n dangos amrediad eang o gartrefi; o fythynnod gwledig yn Sir Frycheiniog i deras o 64 o dai yng Nglynebwy, a gwahanol welliannau'n cynnwys sinciau cegin newydd gydag estyll diferu, cypyrddau bwyd wedi'u hawyru, baddonau newydd, sinciau ymolchi, tai bach ac estyniadau deulawr brics. Mae'r disgrifiadau ar gefn y ffotograffau'n rhoi gwybodaeth am welliannau anweladwy fel tanciau septig newydd a bwyleri dŵr.
Nid ystafelloedd baddon na cheginau 'sioe' mo rhain – maent yn cael eu defnyddio: gellir gweld offer cegin, poteli o hylif glanhau baddon Ajax, brwsys, cadachau, sebon a halwynau ymolchi. Mae cadeiriau tolciog, waliau llaith a llieiniau sychu llwm i'w gweld. Mae'r 'cypyrddau bwyd wedi'u hawyru' (yn gyfwerth ag oergelloedd heddiw), yn llawn bwyd. Mae manylion eraill yn y lluniau'n cynnwys bylbiau golau noeth, offer cegin enamel, drychau ystafell faddon bychain, cadeiriau breichiau gyda breichiau pren, a lloriau linoliwm. Nid oes ceir yn y stryd deras yng Nglynebwy, ond mae yna ddau feic ac erialau teledu ar do bron pob tŷ. Mae'r manylion anfwriadol hyn yn rhoi mewnwelediadau cyfareddol i amodau byw rhannau tlotaf cymdeithas yng Nghymru yn ystod y 1950au a'r 1960au – cyfnod pwysig o newidiadau mawr yn amodau byw'r oedd grantiau gwella'n rhan ohono.
I weld mwy o ffotograffau, ewch at: http://www.casgliadywerincymru.co.uk/collections/376919
More stories with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment