Gwen Jones. Hanesion Cudd: Straeon Heddwch Menywod
Wrth i gymunedau a gwirfoddolwyr trawsysgrifio’r 390,296 o lofnodion yn Neiseb Heddwch Menywod Cymru 1923 i America, mae llawer wedi bod yn cofio ac yn rhannu’r straeon y tu ôl i enwau’r genhedlaeth hon o fenywod gwnaeth hawlio heddwch. Pwy oedden nhw – a pha neges gallai fod ganddyn nhw i ni 100 mlynedd yn ddiweddarach.
Roedd prosiect ‘Hidden Histories’ dan arweiniad WCIA yn gwahodd pobl ledled Cymru i ddatgelu a rhannu ‘straeon heddwch’ y tu ôl i’r 390,296 o fenywod a lofnododd y Ddeiseb Heddwch – nid dim ond ‘y gwych a’r da’, ond y miloedd o fenywod cyffredin ledled Cymru llofnododd yn sgil y Rhyfel Byd Cyntaf er mwyn hawlio heddwch.
Cyfrannwyd y stori hon a deunydd ategol gan Enid Lewis, a fu’n archwilio hanes ei nain, Gwen Jones
---
Deiseb Nefyn 13/18
Dyma fy mamgu – Gwen Jones yn eistedd yn y canol yn y rhes flaen. Roedd Gwen yn 25 yn 1923 wedi ei magu ar fferm Beiliglas , Gwaun Cae Gurwen yn un o bump o blant. Fe gafodd y plant i gyd addysg bellach. Gwen wedi derbyn addysg amaethyddol yn Glasgow. Brawd Gwen, Isaac Jones oedd y Prifathro yng Ngholeg Madryn 1922-1948 a Gwen oedd y Matron am gyfnod. Roedd Gwen yn byw yn ‘Madryn Farm School’ ar y ddeiseb a Bronwen Jones, gwraig Isaac yn ‘Madryn Castle’. Priodwyd Isaac a Bronwen yn haf 1923. Priododd Gwen yn 1925 a symud nôl i’r de i fferm Brynllefrith, Cwmllynfell. Tynnwyd y llun yma rhwng 1923 a 1925. Mae Gwen yn eistedd rhwng Isaac a Bronwen.
More stories with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment