8. Y Llwch Marwol – Afiechyd Diwydiannol yn y Maes Glo
Roedd niwmoconiosis (y niwmo neu glefyd y llwch) a silicosis yn afiechydon ar yr ysgyfaint a achoswyd gan lwch. Roedden nhw’n gyfrifol am beri anabledd ac am farwolaeth gynnar i lowyr.
Rhwng 1933 a 1984, gadawodd 17,000 o lowyr Cymru eu gwaith o dan ddaear yn sgil niwmoconiosis a silicosis.
Aelodau Cyfrinfa Glofa’r Mynydd Mawr yng Ngala’r Glowyr, Gerddi Sophia, Caerdydd, C20 (DNCB/14/1/42)
Ym 1928 daeth hawl i iawndal silicosis i’r glowyr. Gwrthodwyd iawndal i nifer o lowyr gan mai nad hwn oedd yr afiechyd oedd ganddynt.
Detholiad allan o Gofrestr Cynllun Yswiriant Niwmoconiosis a Silicosis, 1945-1952 (DNCB/3/5/1)
Arweiniodd ymchwiliad gan y Cyngor Ymchwil meddygol at Gynllun iawndal (Niwmoconiosis) y Diwydiant Glo ym 1943. Roedd hyn yn golygu y gellid talu iawndal ar gyfer y ddau afiechyd.
Ystafell Cymorth Cyntaf y Garw, archwiliad llygad, 13 Chwe 1951 (DNCB/14/4/58/6)
Ond nid llwch oedd yn gyfrifol am bob afiechyd yn y diwydiant glo. Roedd Nystagmus, afiechyd ar y llygad o ganlyniad i weithio mewn golau isel, wedi effeithio ar 199,831 o lowyr yn y DG rhwng 1908 a 1938.
More stories with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment