Gyda salwch a damweiniau mor gyffredin yn y maes glo roedd angen triniaeth feddygol i fod ar gael. Yn aml ni allai’r rhai sâl neu a anafwyd fforddio talu.
Taflen ar gyfer agoriad Ysbyty Aberpennar a Phenrhiwceiber, 1924 (DNCB/15/17/2)
Cyn y Rhyfel Byd Cyntaf darparwyd gofal meddygol i’r dosbarth gweithiol drwy gyfrwng elusennau a Deddf y Tlodion.
Detholiad allan o lyfr cyflog Glofa’r Dâr yn nodi’r didyniadau meddygol, 1871 (DX316/1)
Roedd cwmnïau glo hefyd yn cynnal cynlluniau meddygol a gyflogai feddygon i drin eu gweithwyr a’u teuluoedd. Talwyd am y cynlluniau meddygol hyn allan o gyflogau’r glowyr.
Cynllun Ysbyty Treherbert, 1924,( D1100/3/12/2).
I wella’r ddarpariaeth feddygol, byddai glowyr hefyd yn cyfrannu at gynlluniau megis Ysbyty Ardal Glowyr Caerffili ac Ysbytai Aberpennar a Phenrhiwceiber.
Claf yn derbyn triniaeth yng Nghanolfan Adferiad Tŷ Talygarn (DNCB/14/4/153/272)
Ym 1943, agorwyd Tŷ Talygarn fel gwasanaeth adferiad i lowyr a anafwyd. Erbyn 1964, roedd 3,000 o gleifion wedi eu trin, gydag un deg naw o bob ugain yn dychwelyd i weithio i’r diwydiant glo.
More stories with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment