Cyn gwladoli ym 1947, rheolwyd diwydiant glo de Cymru gan nifer wahanol o berchnogion a chwmnïau glo.
David Davies, sefydlydd Glofa’r Ocean yn ymweld â Glofa’r Deep Navigation, c.1910 (DNCB/14/1/19)
Yn hwyr yn y 19eg ganrif, gobaith llawer o bobol oedd gwneud eu ffortiwn trwy glo. Ceir cofnodion rhai o’r cwmnïau yma, gan gynnwys dau o’r fwyaf yn ne Cymru, Powell Duffryn a Ocean Coal, yn Archifau Morgannwg.
Detholiad o Adroddiad gan Bwyllgor Cynnyrch Glofa Ogilvie, 1945 (DPD/1/8/69)
Mae adroddiadau blynyddol, llyfrau costau a llyfrau cyflog yn olrhain elw a cholled y cwmnïoedd. Mae llythyron swyddogion a rheolwyr glofeydd yn cynnig cipolwg ar drefn gwaith dyddiol pwll glo.
Mae nodiadau ymchwil, fel y rhai sy’n cofnodi ymweliad a glofeydd yn Wlad Belg a’r Almaen ym 1904 gan Rheolwr-Gyfarwyddwr Ocean Coal, yn dangos sut oedd cwmnïau yn gweithio i wella eu cyfleusterau a’u cynnyrch.
More stories with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment