20. Helpwch ni i adrodd hanes y maes glo
A oes eitemau gennych y gallem eu hychwanegu i gasgliadau’r maes glo yn Archifau Morgannwg?
Fel rhan o broject Gwaed Morgannwg, mae Archifau Morgannwg wedi catalogio cofnodion y Bwrdd Glo a’r cwmnïau glo a fodolai cyn gwladoli’r diwydiant.
Ond dim ond rhan o’r stori yw hynny. Rydym am adrodd eich hanes chi hefyd – hanes y glowyr a’u teuluoedd, y bobl a weithiai yn y diwydiant glo ac a oedd yn byw yn y cymunedau glofaol.
Glowyr a Menywod Cwmbach yn lleisio’u barn, Rhag 1984 (DWSG/11/5)
Os oes deunyddiau gennych y carech eu hychwanegu i’n casgliad – eitemau fel ffotograffau, cynlluniau, cofnodion cyfarfodydd, pamffledi a thaflenni, cylchlythyron – cysylltwch â ni yn Archifau Morgannwg.
More stories with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment