Skip to main content

Adeiladu Dociau Y Barri

Dewisiwyd y Barri i'w ddatblygu fel porthladd glo yn y 1880au cynnar gan David Davies a diwydiannwyr amlwg eraill, ac er i'r mesur cyntaf ar gyfer codi dociau a rheilffordd ar Ynys y Barri gael ei wrthod yn wreiddiol, cafodd y cynllun uchelgeisiol ei gymeradwyo y flwyddyn ganlynol a chafodd mesur ei basio yn y Senedd yn 1884.

Dechreuodd gwaith ar Doc Rhif 1 ar 14eg o Dachwedd 1884, ac fe'i agorwyd yn swyddogol yn 1889. Yn ogystal, dechreuodd cwmni'r Barry Dock and Railway Company godi rheilffordd o'r dociau i Gwm Rhondda yn 1885, gan sefydlu'r cyswllt hollbwysig gyda meysydd glo de Cymru.

Agorwyd ail ddoc y Barri yn 1898 ac fe wnaeth hyn gynyddu'r gallu i gwrdd ag anghenion allforio glo yn sylweddol. Erbyn 1913 y Barri oedd y porthladd glo prysuraf yn y byd, gan fynd ar y blaen i ddociau Caerdydd.

Related items

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment