Yn ystod pandemig Covid-19 wnaeth daro'r DU yn galed yn 2020-21, bu'n rhaid i Wonderbrass atal yr holl weithgareddau arferol ynghlwm wrth ymarfer a pherfformio. Hyd yn oed pan gafodd y cyfyngiadau cenedlaethol eu llacio am gyfnod ar ddiwedd haf a hydref 2020, roedd cael band mawr o offerynnau chwyth yn bennaf yn dod at ei gilydd yn risg rhy uchel i bi allu ddychwelyd i chwarae gyda'n gilydd. Ond mae Wonderbrass yn rhy bwysig i'w haelodau i ni dim ond eistedd yn ôl ac aros. Felly, fel grwpiau eraill, aethom ati i ddod o hyd i ffyrdd nid yn unig o gadw ein repertoire presennol i fynd ond hefyd i ddysgu darnau newydd. Gydag arian yn dechrau sychu i fyny, gwnaeth y band gais i gronfa adfer diwylliannol Cyngor Celfyddydau Cymru er mwyn cefnogi datblygu deunydd newydd ar gyfer y band, cyfleoedd i ddysgu ac ymarfer y deunydd hwn, ac adnoddau i alluogi aelodau i weithio ar y deunydd ar eu pennau eu hunain yn ogystal â gyda'i gilydd. Yn y stori hon fe welwch y fideo a grëwyd yn ystod cyfnod y clo cyntaf, rhai delweddau o ymarferion Zoom yn ystod yr ail gyfnod clo a sgrinluniau o rai o'r adnoddau ar-lein o wefan y band.
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment