Skip to main content

Môr-grwban Ledraidd yn torri pob record, Harlech 1988

Ym mis Medi 1988 cafodd 'anghenfi' ei olchi i'r lan ar y traeth yn Harlech, Gwynedd. Cafodd Mike Alexander, y Warden wrth gefn ym Meirionydd ei alw i lawr i Harlech gan ffermwr lleol, a oedd yn mynnu ei fod 'angen gwneud rhywbeth yn ei gylch'. Pan welodd Mr Alexander mai môr-grwban lledraidd ydoedd a chan nodi ei fod yn llawer mwy nag unrhywbeth y gallai fod wedi ei ddychmygu, cysylltodd gydag Amgueddfa Genedlaethol Cymru yng Nghaerdydd, er mwyn holi a fyddent yn dymuno arddangos y carcas o fewn yr amgueddfa. Wedi iddo siarad gyda Peter Morgan, pennaeth Swoleg yn yr Amgueddfa, gyrrodd Mr Alexander i Gaerdydd y bore canlynol - gyda'r môr-grwban lledraidd mewn trelar y tu ôl iddo. Pan gyrhaeddodd, buan y daethant i sylweddoli nad sbesimen arferol mohono.

Related items

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment