Skip to main content

Newidiadau yn y gefnen ym Mae Cemlyn

Mae gwarchodfa natur Cemlyn yn cael ei rheoli gan Ymddiriedolaeth Byd Natur Gogledd Cymru ar gyfer y niferoedd mawr o fôr-wenoliaid sy'n dod yno i fridio o wahanol rannau o Affrica bob blwyddyn. Mae'r warchodfa yn denu'r môr-wenoliaid oherwydd y gefnen ro fawr sy'n cau mewn lagŵn dŵr lled hallt y tu ôl iddo a'r ynysoedd isel. Mae môr-wenoliaid wedi bridio ar yr ynysoedd hyn dros y blynyddoedd, ond mae Ben yn cofio môr-wenoliaid ac adar y glannau eraill yn bridio ar y gefnen ei hun. Mae'r gefnen wedi newid yn ei siâp a'i safle dros y blynyddoedd y bu'n gweithio yn y warchodfa ac yn ymweld â hi, a hynny, mae'n debyg oherwydd y newid yn nharddle a chryfder stormydd y gaeaf. Mae'r gefnen erbyn hyn yn nes at yr ynysoedd lle mae'r adar yn bridio ac mae'n fwy serth o ran siâp gan ei gwneud hi ychydig yn fwy problemus i'r adar ei defnyddio yn y tymor bridio.

Related items

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment