Skip to main content

Uffern Rhyfel - Brwydr Coed Mametz a'r Celfyddydau

Celf wedi ei ysbrydol i gan frwydr Coed Mametz. Mae'r pecyn hwn yn cynnwys adnodd dysgu gyda thasgau yn seiliedig ar y gwaith celf, yn ogystal â gwybodaeth am y gweithiau. Mae hefyd dolenni i gasgliadau perthnasol i Goed Mametz ar ein gwefan.

 

Cwricwlwm i Gymru

Y Dyniaethau, Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu, Fframwaith Cymhwysedd Digidol

Celf, Hanes

Oed: 8-14 / Cam Cynnydd: 3 a 4

 

Pecyn Gweithgareddau Dysgu

Casglwch syniadau ar gyfer eich projectau digidol eich hunan drwy weld sut mae ysgolion eraill wedi defnyddio ein gwefan. Gweler y Cysylltiadau Cyflym isod am gynnwys i gyd-fynd â'r Adnodd Dysgu hwn.

Mae’r adnodd hwn yn defnyddio deunydd a gasglwyd ar gyfer arddangosfa Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Uffern Rhyfel: Brwydr Coed Mametz a’r Celfyddydau, a gynhaliwyd yn 2016 – 100 mlynedd wedi’r frwydr. Mae’n edrych ar ymateb artistiaid a beirdd i un o’r brwydrau mwyaf ffyrnig a ymladdwyd gan filwyr Cymreig yn y Rhyfel Byd Cyntaf.

Rhwng 7 a 12 Gorffennaf 1916, bu milwyr Adran 38 (yr ‘Adran Gymreig’) yn ymladd i reoli’r goedwig yng ngogledd Ffrainc fel rhan o ymosodiad ehangach y Somme. Cafodd nifer fawr iawn o filwyr eu lladd. Mewn pum diwrnod Cafodd 4,000 o filwyr o’r Adran Gymreig eu lladd, eu hanafu, neu eu colli ar faes y gad.

Daeth teitl Saesneg yr arddangosfa o gerdd ddirdynnol Robert Graves, A Dead Boche, 1917. Roedd yn un o nifer o feirdd ac artistiaid a brofodd Frwydr Coed Mametz drostynt eu hunain.

Nid yw'r arddangosfa yn rhedeg mwyach, ond cewch hyd i'r deunydd perthnasol i gyd yma, yn ogystal ag eitemau eraill yn ymwneud gyda'r Frwydr ar ein gwefan.

 

Tasgiau digidol i'w gwneud yn y dosbarth

 

 

Creu Arddangosfa Ddigidol: Gall eich disgyblion ddarganfod eitemau o fewn y casgliadau gan ddilyn y dolenni uchod. Yna, gallent gynllunio arddangosfa ar-lein ar y cyd i'w rannu gyda chynulleidfa eang o wrthrychau a darluniau er mwyn cyfleu neges arbennig. Gallent yna werthuso eu gwaith.

Creu Stori o Argraffiadau o'r Cerddi: Mae'r pecyn i athrawon yn cynnwys tasgau adlewyrchol, ble mae gofyn i ddysgwyr ysgrifennu eu hargraffiadau o'r cerddi. Gallent lunio cynnwys ar y wefan hon drwy greu stori (math cynnwys) gyda lluniau a fideos, yn cyfleu'r argraffiadau hyn.

Ymchwil: Gan ddefnyddio'r dolenni, defnyddiwch y wefan hon i wneud yr ymchwil y sonnir amdano yn y pecyn i athrawon.

Creu Stori o Argraffiadau o'r Darluniau: Fel gyda'r dasg ar gyfer cerddi, gall eich dysgwyr wneud yr un fath gyda'r dasg ar gyfer y darluniau.

 

Gweler y Blwch Offer i Athrawon am help ar sut i wneud y mwyaf o’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol wrth ffurfio prosiect. 

You must be logged in to leave a comment