Abertawe Oes Fictoria - Cyfrif Pennau
Pwy oedd Fictoriaid Abertawe? Pa fath o bobl oedd yn byw ac yn gweithio yn Abertawe yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg? Ai tref lan môr Fictoraidd fodern, grand â’r rhwydwaith drafnidiaeth ddiweddaraf ynteu dref ddiwydiannol fyglyd, orlawn, gyda slymiau, colera a draeniau gwael oedd Abertawe? Neu rywbeth rhwng y ddau?
Edrychwch ar ddarnau o gyfrifiad Tref Abertawe 1851 i’ch helpu gyda’r cwestiynau. Gwyliwch fideos ail-greu fydd yn dod ag Abertawe Fictoraidd yn fyw i’ch disgyblion.
Cwricwlwm i Gymru
Y Dyniaethau, Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu, Fframwaith Cymhwysedd Digidol
Hanes
Oed: 8-11 / Cam Cynnydd: 3
Pecyn Gweithgareddau Dysgu
Mae’r adnodd hwn yn darparu gweithgareddau dysgu ar gyfer eich myfyrwyr, gan ddefnyddio ein cynnwys. Mae’n un o gyfres o 3 am 'Abertawe Oes Fictoria' ar gyfer am Cam Cynnydd 3. Gweler y Cysylltiadau Cyflym isod am gynnwys i gyd-fynd â'r Adnodd Dysgu hwn.
You must be logged in to leave a comment