Skip to main content

Picedi, Plismyn a Gwleidyddiaeth

Cynllun pedair gwers i’w defnyddio gan ysgolion uwchradd, sy’n esbonio cefndir, digwyddiadau a chanlyniadau Streic y Glowyr 1984-5. 

 

Cwricwlwm i Gymru

Y Dyniaethau

Hanes

Oed: 11-16 / Cam Cynnydd: 4 a 5

 

Pecyn Gweithgareddau Dysgu

Mae’r adnodd hwn yn darparu gweithgareddau dysgu ar gyfer eich myfyrwyr, gan ddefnyddio ein cynnwys. Gweler y Cysylltiadau Cyflym isod am gynnwys i gyd-fynd â'r Adnodd Dysgu hwn.

Gwelwyd newidiadau mawr yn y diwydiant glo wedi’r gwladoli ym 1947, gyda buddsoddiadau sylweddol mewn offer a thechnegau cloddio newydd. Arhosodd y lefelau cynhyrchu a chyflogaeth yn sefydlog tan ganol y 1950au. Ond gyda’r gostyngiad yn y galw am lo a’r her o olew’r Dwyrain Canol, caewyd 50 o byllau glo yn ne Cymru rhwng 1957 a 1964.

Yn ystod y 1970au, gwelodd y diwydiant ddwy streic fawr. Enillodd y cloddwyr mewn streic dros gyflog yn 1972. Yna yn 1074, galwodd y Prif Weinidog ar y pryd Ted Heath am etholiad cyffredinol sydyn, gan golli. Yn yr 1980au, roedd diwydiant glo Prydain ymhlith y mwyaf diogel ac effeithlon yn y byd. Fodd bynnag, pan ddaeth y llywodraeth Geidwadol newydd i rym dan arweiniad Margaret Thatcher, roedd am wneud y diwydiant yn fwy effeithlon trwy leihau’r hyn yr oedd yn eu hystyried fel diwydiannau amhroffidiol, a preifateiddwyd nifer o ddiwydiannau a oedd gynt yn cael eu rhedeg gan y wladwriaeth. Roedd nifer o byllau glod nawr yn wynebu cael eu cau. Ar yr un pryd, roedd y llywodraeth am wanhau grym yr undebau llafur. Arweiniodd yr agenda hwn at wrthdaro rhwng y llywodraeth Geidwadol ac Undeb Cenedlaethol y Glowyr (NUM).

Roedd dirwasgiad y 1970au hwyr a’r 1980au cynnar hefyd wedi niweidio diwydiannau eraill yng Nghymru. Felly, roedd dros 13% o bobl yn ddi-waith yn ne Cymru’n barod, a oedd yn llawer uwch na’r cyfartaledd trwy’r DU. O ganlyniad i hyn, teimlai nifer o lowyr a’u teuluoedd nad oedd ganddynt unrhyw ddewis ond brwydro dros yr hawl i weithio a dyfodol eu cymunedau. Lawr lwythwch y pecyn addysg uchod er mwyn darganfod a thrafod Streic y Glowyr 1984-5, neu edrychwch ar yr eitemau gan ddilyn y dolenni a gallwch greu eich casgliad neu stori eich hunain.

You must be logged in to leave a comment