Skip to main content

Bywyd ar Ffrynt y Gorllewin

Llyfr rhyngweithiol am fywyd ar Ffrynt y Gorllewin yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Mae fersiwn PDF (nid yw'n rhyngweithiol) yn ogystal os nad oes gennych chi iOS (Apple).

 

Cwricwlwm i Gymru

Y Celfyddydau Mynegiannol, Y Dyniaethau, Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu, Fframwaith Cymhwysedd Digidol

Celf, Hanes

Oed: 8-11 / Cam Cynnydd: 3

 

Pecyn Gweithgareddau Dysgu

Casglwch syniadau ar gyfer eich projectau digidol eich hunan drwy weld sut mae ysgolion eraill wedi defnyddio ein gwefan. Gweler y Cysylltiadau Cyflym isod am gynnwys i gyd-fynd â'r Adnodd Dysgu hwn.

Dyma e-lyfr (iBook) a grewyd ar y cyd gan Amgueddfa Cymru a'r Llyfrgell Genedlaethol yn trafod bywyd milwyr Cymru ar Ffrynt y Gorllewin yn ystod y Rhyfel Byd 1af.

Mae'r e-lyfr ar gyfer defnydd eich disgyblion. 

 

Tasgiau digidol i'w gwneud yn y dosbarth

 

 

Cardiau post: Gall eich dosbarth lunio cerdyn post wedi ei ysbrydoli gan rai'r milwyr Cymreig, a'u uwchlwytho ar wefan Casgliad y Werin. Gallent greu casgliad ohonynt neu ddweud mwy amdanynt drwy lunio stori.

Gwrthrychau a delweddau: Cynlluniwch gasgliad o eitemau er mwyn creu arddangosfa ddigidol ar-lein o ddelweddau neu wrthrychau trawiadol.

You must be logged in to leave a comment