Skip to main content

Yr Holocost a Chymru: Atgofion am Kristallnacht: Y Bar Mitzvah olaf

Ar 9 a 10 Tachwedd 1938, cynhaliodd y gyfundrefn Natsïaidd gyfres o ymosodiadau o’r enw ‘pogroms’ yn erbyn y boblogaeth Iddewig yn yr Almaen a thiriogaethau eraill a feddiannwyd gan y Natsïaid. Daeth y digwyddiad hwn i gael ei adnabod fel Kristallnacht neu ‘Noson y Gwydr Toredig’ oherwydd y gwydr drylliedig a lenwodd y strydoedd ar ôl fandaliaeth a dinistr synagogau, busnesau a chartrefi a oedd yn eiddo i Iddewon. Yn y casgliad hwn o adnoddau, rydym yn archwilio atgofion Julius Weil o’r digwyddiad dinistriol hwn. Bu farw Julius Weil yng Nghaerdydd yn 2021.

Mae’r adnodd hwn yn archwilio adroddiad Julius Weil am ei Bar Mitzvah, sef y seremoni Bar Mitzvah olaf i gael ei chynnal yn Synagog Glockengasse yng Nghwlen, yr Almaen cyn iddi gael ei dinistrio yn ystod Kristallnacht.

Delwedd uchod: Golygfa fewnol o Synagog ddrylliedig Fasanenstraße, Berlin, a losgwyd yn ystod Pogroms Tachwedd, Tachwedd 1938. Delwedd: Center for Jewish History, New York City. Trwy garedigrwydd Leo Baeck Institute.

 

Mae'r adnodd yn cynnwys:

I. Canllawiau i Athrawon:

- Beth yw diben, nodau dysgu a ffocws yr adnodd?
- Pa sgiliau, gwybodaeth a phrofiad y mae'r adnodd yn helpu i'w datblygu?
- Sut y mae'r adnodd yn cefnogi dysgu mewn cyd-destunau lleol (cynefin), cenedlaethol a rhyngwladol?
- Gwybodaeth gefndir am Kristallnacht.
- Syniadau a chwestiynau.
- Dolenni i ymchwil a rhagor o wybodaeth.

II. Taflen Wybodaeth a Gweithgareddau i Ddysgwyr:

- Taflen wybodaeth am Kristallnacht.
- Bywgraffiad Julius Weil.
- Gweithgareddau awgrymedig.

 

Lluniwyd yr adnodd hwn yn wreiddiol yn 2021-22, yn rhan o'r prosiect partneriaeth  'Côf a lithr, llythyrau a geidw: creu adnoddau'r Holocost ar gyfer ysgolion Cymru' rhwng Canolfan Astudio Symudedd Pobl (CMOP), Prifysgol Aberystwyth, a Jewish History Association of South Wales/Cymdeithas Hanes Iddewig De Cymru (JHASW/CHIDC). Cefnogwyd y prosiect trwy garedigrwydd Cymdiethas y Ffoaduriaid Iddewig, Charles Wolfson Charitable Trust, Jewish Historical Society of England a Garfield Weston Foundation.

Fe'i diwygiwyd yn 2024 i weddu i ofynion Cwricwlwm i Gymru, a hynny gan Gymdeithas Hanes Iddewig De Cymru (CHIDC) a diolch i grant gan Gymdeithas y Ffoaduriaid Iddewig ac Ymddiriedolaeth Elusennol Charles Wolfson.

 

Cwricwlwm i Gymru

Y Celfyddydau Mynegiannol, Iecheyd a Lles, Y Dyniaethau, Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu

Oed: 9-14 / Camau Cynnydd: 3 a 4

 

Pecyn Gweithgareddau Dysgu

Mae hwn yn un o ddau adnodd ar bwnc Kristallnacht ac un o 20 am yr Holocost a Chymru. Dyma ddolen i’r adnodd arall yn y gyfres hon: 

Atgofion am Kristallnacht: Dinistr a Dianc

 

Gweler y Cysylltiadau Cyflym isod am gynnwys i gyd-fynd â'r adnodd hwn.

.

You must be logged in to leave a comment