Gweithdy John Piper
Darluniau a cherddi wedi eu creu gan Ysgol Foel Gron ac Ysgol Llanbedrog, wedi eu hysbrydoli gan waith John Piper. Mae'r pecyn hwn yn cynnwys lluniau o'u gwaith a dolenni i luniau o'r gwaith a'u hysbrydolodd nhw. Mae tasg digidol i'w gael hefyd a dolen i becyn addysg John Piper.
Dyma waith Ysgol Foel Gron ac Ysgol Llanbedrog. Daethant i blas Glyn y Weddw i weithio gyda staff Amgueddfa Cymru, er mwyn creu brasluniau a lluniau wedi eu hysbrydoli gan waith John Piper. Hefyd, ysgrifennwyd cerdd ganddynt gyda chymorth Twm Morys. Mae lluniau o'r diwrnod a'u gwaith i'w gwel yn yr e-lyfr.
Aethant allan i erddi'r Plas er mwyn creu brasluniau fel yr oedd John Piper yn ei wneud. Byddai John Piper yn braslunio yn yr awyr agored, cyn dychwelyd i'w sdiwdio i greu ei baentiadau o fynyddoedd Eryri. Ar eu taith o amgylch y gerddi, roeddent yn aros yn eu hunfain ac yn gwneud braslun o beth a welent o dan eu traed, uwch eu pennau ac o'u cwmpas.
Darganfod pecyn addysg am ddarluniau John Piper, ac i weld lluniau o'i waith wedi digideiddio John Piper—Mynyddoedd Cymru.

Creu Casgliad o Waith Celf: gallwch fynd a braslunio neu greu gwaith celf, neu ysgrifennwch gerdd, a'i uwchlwytho ar ein gwefan. Yna gallwch greu casgliad neu stori.
Taith Celf: os yn gwneud gwaith celf yn yr awyr agored, gallwch wneud taith ohono gan blotio eich lluniau ar y map.
Am gymorth ar sut i greu casgliad neu daith, ac ar lunio prosiect, ewch i'r blwch offer athrawon.
You must be logged in to leave a comment