Prosiect John Piper: Ysgol Moelfre
Gwaith a luniwyd gan Ysgol Bodedern wedi selio ar waith John Piper.
Daeth Ysgol Moelfre i Oriel Ynys Mon tra bo gwaith John Piper yn cael ei arddangos yno. Aethant ati i lunio eu fersiynau eu hunain o'r paentiadau.
Cafodd John Piper ei ysbrydoli gan fynyddoedd Eryri, ac yn yr 1940-50au roedd yn aros mewn bwthyn ac yn mynd oddi yno i ddarganfod a phaentio'i amgylchedd.
Edrychwch trwy'r lluniau er mwyn gweld eu gwaith celf, a llun o'r gwaith celf o flaen y paentiad gwreiddiol. Mae gwaith Ysgol Moelfre hefyd yn yr e-lyfr. Gallwch bori drwy y paentiadau gwnreiddiol drwy glicio ar y ddolen i'r casgliad. Mae dolen hefyd i waith Ysgol Bodedern, a gweithddy gyda Ysgol Foel Gron a Ysgol Llanbedrog hefyd wedi ei ysbrydoli gan John Piper a dolen i adnodd John Piper - Mynyddoedd Cymru.

Creu Casgliad Celf: uwchlwythwch eich gwaith celf a crewch gasgliad ohono. Gallwch ei gysylltu gyda casgliad gelf artist sydd i'w weld ar ein gwefan. Trafodwch hyn a pham na allwch fynd i oriel a ychwanegu lluniau artist ar y we heb eu caniatad er mwyn datblygu dealltwriaeth o elfen Dinasyddiaeth y Fframwaith Cymhwysedd Digidol.
Am fwy o wyboadaeth ar hawlfraint a luunio prosiect, ewch i'r blwch offer athrawon.
You must be logged in to leave a comment