Prosiect John Piper: Ysgol Bodedern
Gwaith Celf gan Ysgol Bodedern wedi ei ysbrydoli gan waith John Piper
Daeth Ysgol Bodedern i Oriel Ynys Mon tra bo gwaith John Piper yn cael ei arddangos yno.
Aethant ati i lunio eu fersiynau eu hunain o'r paentiadau. Cafodd John Piper ei ysbrydoli gan fynyddoedd Eryri, ac yn yr 1940-50au roedd yn aros mewn bwthyn ac yn mynd oddi yno i ddarganfod a phaentio'i amgylchedd.
Edrychwch trwy'r lluniau er mwyn gweld eu gwaith celf, a llun o'r gwaith celf o flaen y paentiad gwreiddiol. Mae gwaith ysgol Bodedern hefyd yn yr e-lyfr. Gallwch bori drwy y paentiadau gwnreiddiol drwy glicio ar y ddolen i'r casgliad. Mae hefyd dolen i waith Ysgol Moelfre, a gweithdy gyda Ysgol Foel Gron a Ysgol Llanbedrog hefyd wedi ei ysbrydoli gan John Piper. Mae dolen hefyd i adnodd dysgu John Piper - Mynyddoedd Cymru.

Creu Casgliad Celf: uwchlwythwch eich gwaith celf a crewch gasgliad ohono. Gallwch ei gysylltu gyda casgliad o gelf artist sydd i'w weld ar ein gwefan gan fod yr hawlfraint yma wedi ei glirio. Trafodwch hyn a pham na allwch fynd i oriel a ychwanegu lluniau artist ar y we heb eu caniatad er mwyn datblygu dealltwriaeth o elfen Dinasyddiaeth y Fframwaith Cymhwysedd Digidol.
Am fwy o wybdaeth ar hawlfraint a llunio prosiect, ewch i'r blwch offer athrawon.
You must be logged in to leave a comment