Skip to main content

Yr Holocost a Chymru: Arlunwyr Iddewig yng Nghymru - Josef Herman

Mae’r adnodd hwn yn archwilio bywyd a gwaith yr arlunydd o ffoadur Iddewig, Josef Herman, a fu’n byw yn Ystradgynlais yng Nghwm Tawe am un mlynedd ar ddeg, o 1944-1954. Anogir dysgwyr i archwilio gwaith celf Herman a chreu eu darnau eu hunain yn ei arddull.

Delwedd uchod: Miners Singing gan Josef Herman (1911-2000). ©Ystad yr arlunydd/Amgueddfa Cymru - National Museum of Wales.


Mae'r adnodd yn cynnwys:

I. Canllawiau i Athrawon:

- Beth yw diben, nodau dysgu, a ffocws yr adnodd?
- Pa sgiliau, gwybodaeth a phrofiad y mae'r adnodd yn helpu i'w datblygu?
- Sut y mae'r adnodd yn cefnogi dysgu mewn cyd-destunau lleol (cynefin), cenedlaethol a rhyngwladol?
- Gwybodaeth gefndir am Josef Herman.
- Syniadau a chwestiynau.
- Dolenni i ymchwil a rhagor o wybodaeth.

II. Taflen Wybodaeth a Gweithgareddau i Ddysgwyr:

- Gwybodaeth am Josef Herman a'i gysylltiad â Chymru.
- Enghreifftiau o waith Josef Herman.
- Gweithgareddau awgrymedig.


Lluniwyd yr adnodd hwn yn wreiddiol yn 2021-22, yn rhan o'r prosiect partneriaeth 'Côf a lithr, llythyrau a geidw: creu adnoddau'r Holocost ar gyfer ysgolion Cymru' rhwng Canolfan Astudio Symudedd Pobl (CMOP), Prifysgol Aberystwyth, a Jewish History Association of South Wales/Cymdeithas Hanes Iddewig De Cymru (JHASW/CHIDC). Cefnogir y prosiect yn garedig gan Cymdiethas y Ffoaduriaid Iddewig, Charles Wolfson Charitable Trust, Jewish Historical Society of England a Garfield Weston Foundation.

Fe'i diwygiwyd yn 2024 i weddu i ofynion Cwricwlwm i Gymru, a hynny gan Gymdeithas Hanes Iddewig De Cymru (CHIDC) a diolch i grant gan Gymdeithas y Ffoaduriaid Iddewig ac Ymddiriedolaeth Elusennol Charles Wolfson.

 

Cwricwlwm i Gymru

Y Celfyddydau Mynegiannol, Iecheyd a Lles, Y Dyniaethau, Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu

Oed: 9-14 / Camau Cynnydd: 3 a 4

 

Pecyn Gweithgareddau Dysgu

Mae hwn yn un o ddau adnodd ar arlunwyr a oedd yn ffoaduriaid Iddewig, ac yn un o 20 adnodd am yr Holocost a Chymru. Dyma ddolen i’r adnodd arall yn y gyfres hon: https://www.casgliadywerin.cymru/learn/holocaust-and-wales-heinz-koppel

 

Gweler y Cysylltiadau Cyflym isod am gynnwys i gyd-fynd â'r adnodd hwn.

.

You must be logged in to leave a comment