Yr Holocost a Chymru: Arlunwyr Iddewig yng Nghymru - Heinz Koppel
Mae’r adnodd hwn yn archwilio bywyd a gwaith yr arlunydd Iddewig, Heinz Koppel, a aned ym Merlin ac a fu'n byw yng Nghymru. Mae'n defnyddio elfennau o Ddrama a Symudiad i hybu creadigrwydd y dysgwyr, a byddai'n well ei gyflwyno mewn gofod mawr megis stiwdio ddrama.
Delwedd uchod: Heinz Koppel ac Renate Fischl ar ddiwrnod eu priodas, 1949. Delwedd trwy garedigrwydd Gaby Koppel.
Mae'r adnodd yn cynnwys:
I. Canllawiau i Athrawon:
- Beth yw diben, nodau dysgu, a ffocws yr adnodd?
- Pa sgiliau, gwybodaeth a phrofiad y mae'r adnodd yn helpu i'w datblygu?
- Sut y mae'r adnodd yn cefnogi dysgu mewn cyd-destunau lleol (cynefin), cenedlaethol a rhyngwladol?
- Gwybodaeth gefndir am Heinz Koppel.
- Syniadau a chwestiynau.
- Dolenni i ymchwil a rhagor o wybodaeth.
II. Taflen Wybodaeth a Gweithgareddau i Ddysgwyr:
- Cofiant Heinz Koppel.
- Y paentiad ‘Merthyr Blues’.
- Gweithgareddau awgrymedig.
Lluniwyd yr adnodd hwn yn wreiddiol yn 2021-22, yn rhan o'r prosiect partneriaeth 'Côf a lithr, llythyrau a geidw: creu adnoddau'r Holocost ar gyfer ysgolion Cymru' rhwng Canolfan Astudio Symudedd Pobl (CMOP), Prifysgol Aberystwyth, a Jewish History Association of South Wales/Cymdeithas Hanes Iddewig De Cymru (JHASW/CHIDC). Cefnogir y prosiect yn garedig gan Cymdiethas y Ffoaduriaid Iddewig, Charles Wolfson Charitable Trust, Jewish Historical Society of England a Garfield Weston Foundation.
Fe'i diwygiwyd yn 2024 i weddu i ofynion Cwricwlwm i Gymru, a hynny gan Gymdeithas Hanes Iddewig De Cymru (CHIDC) a diolch i grant gan Gymdeithas y Ffoaduriaid Iddewig ac Ymddiriedolaeth Elusennol Charles Wolfson.
Cwricwlwm i Gymru
Y Celfyddydau Mynegiannol, Iecheyd a Lles, Y Dyniaethau, Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu
Oed: 9-14 / Camau Cynnydd: 3 a 4
Pecyn Gweithgareddau Dysgu
Mae hwn yn un o ddau adnodd ar arlunwyr a oedd yn ffoaduriaid Iddewig, ac yn un o 20 adnodd am yr Holocost a Chymru. Dyma ddolen i’r adnodd arall yn y gyfres hon: https://www.casgliadywerin.cymru/learn/holocaust-and-wales-josef-herman
Gweler y Cysylltiadau Cyflym isod am gynnwys i gyd-fynd â'r adnodd hwn.
.
You must be logged in to leave a comment