Skip to main content

Archifau Morgannwg: Yr Ail Ryfel Byd

Dysgwch fwy am effaith yr Ail Ryfel Byd ar Gaerdydd a de Cymru. Darganfyddwch sut effeithiwyd ar ysgolion, dysgwch am gyrchoedd awyr a’r camau diogelu a gymerwyd a dysgwch fwy am ffoaduriaid. Dysgwch am y brwydrau ar y Ffrynt Cartref drwy ‘Dig for Victory’ a ‘Make Do and Mend’, a sut effeithiwyd ar y werin yn ne Cymru gan y dogni.

Cafodd yr adnodd hwn ei greu gan Archifau Morgannwg gan ddefnyddio ffynonellau fel llyfrau log ysgol, mapiau, ffotograffau, llythyrau a llawer mwy. Ysgrifennwyd y nodiadau athrawon ar gyfer Cam Cynnydd 3, ond mae'r adnodd yn cynnwys deunydd crai a syniadau diddorol all gael eu haddasu ar gyfer Cam Cynnydd 4 neu 5.

 

Cwricwlwm i Gymru

Oed: 8-16 / Cam Cynnydd: 3, 4 a 5

Y Dyniaethau

  • Mae ymholi, archwilio ac ymchwilio yn ysbrydoli chwilfrydedd am y byd, ei orffennol, ei bresennol a’i ddyfodol.
  • Mae cymdeithasau dynol yn gymhleth ac yn amrywiol, ac maen nhw’n cael eu llywio gan weithredoedd a chredoau pobl.

     

Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu

  • Mae deall ieithoedd yn allweddol i ddeall y byd o'n hamgylch.
  • Mae mynegi ein hunain drwy ieithoedd yn allweddol i gyfathrebu.

 

Pecyn Gweithgareddau Dysgu

Mae’r adnodd hwn yn darparu gweithgareddau dysgu ar gyfer eich myfyrwyr, gan ddefnyddio ein gwefan. Mae’n un o gyfres o 6 adnodd o Archifau Morgannwg. Gallwch weld y deunydd crai yn y ddogfen PDF isod, neu gallwch chi a'ch disgyblion weld y cynnwys digidol ar Gasgliad y Werin Cymru trwy ddilyn y Cysylltiadau Cyflym isod.

.

You must be logged in to leave a comment