Dyddiau du - Llifogydd ac allfudo - Patagonia
Dyddiau du - Llifogydd ac allfudo - Patagonia
I goroni’r cwbl, cafodd Dyffryn Camwy ei daro ym 1899 gan y llifogydd gwaethaf ers i'r Cymry ymsefydlu yno ym 1865. Yn ôl adroddiadau ar y pryd, bu'n bwrw glaw yn Nyffryn Camwy am dros dair wythnos, gan achosi i lefel yr afon godi ar gyfradd o bymtheg modfedd pob deuddeng awr. Difrodwyd cartrefi ac eiddo'r ymsefydlwyr a bu'n rhaid iddynt ffoi i dir uwch er mwyn diogelwch.
Cwricwlwm i Gymru
Y Dyniaethau
Hanes
Oed: 11-14 / Cam Cynnydd: 4
Pecyn Gweithgareddau Dysgu
Mae’r adnodd hwn yn darparu gweithgareddau dysgu ar gyfer eich myfyrwyr, gan ddefnyddio ein cynnwys. Mae’n un o gyfres o naw yn ymwneud â Phatagonia ar gyfer Cam Cynnydd 4.
You must be logged in to leave a comment