Skip to main content

Astudiaeth Achos: Io Satwrnalia!

Hanes y Satwrnalia. Mae’r fideo yn y pecyn addysg yma wedi cael ei greu gan Somerton Primary School fel rhan o Ddiwrnod Meddiannu Plant mewn Amgueddfeydd 2016. Gallwch ddod o hyd i ddolen i’r fideo isod, yn ogystal â dolen i gasgliad o wrthrychau a ddewiswyd gan yr Ysgol ar eu hymweliad a stori er mwyn darganfod mwy am yr ŵyl ganol gaeaf Rhufeinig, y Satwrnalia.

Gallwch ddefnyddio’r adnoddau atodol er mwyn creu eich fideo eich hunain. Maent yn cynnwys templed ar gyfer bwrdd stori ac esiamplau o linellau a ddefnyddiwyd ar gyfer creu'r fideo hwn am y Satwrnalia.

 

Cwricwlwm i Gymru

Y Dyniaethau, Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu, Fframwaith Cymhwysedd Digidol

Hanes

Oed: 8-11 / Cam Cynnydd 3

 

Astudiaeth achos

Casglwch syniadau ar gyfer eich projectau digidol eich hunan drwy weld sut mae ysgolion eraill wedi defnyddio ein gwefan.

Creu Fideo: Defnyddiwch yr adnoddau ar y dudalen hon i’ch helpu i gynllunio a chreu fideo ar bwnc o’ch dewis ar gyfer ei uwchlwytho. Gallwch ddefnyddio’r cynnwys ar y wefan yma ar gyfer eich ymchwil. Crëwch gasgliad i gynnwys y fideo, ac unrhyw wrthrychau i gyd-fynd a’r fideo, a stori i ddweud mwy am y pwnc. Gweler y Blwch Offer i Athrawon am help ar sut i wneud y mwyaf o’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol wrth ffurfio prosiect. 

You must be logged in to leave a comment