Treill-longau Arfog a Hebryngai’r DERBENT
Disgrifiadau
Roedd gofyn i Uwch Swyddog y Llynges yn Queenstown, Iwerddon (Cobh yn Swydd Cork bellach), ysgrifennu adroddiadau wythnosol ar y modd yr oedd y llongau yn ei ofal yn cael eu defnyddio. Câi’r adroddiadau eu hanfon at Ysgrifennydd y Morlys ac roeddynt yn cynnwys tablau’n rhestru’r treill-longau arfog a oedd yn hebrwng y llongau unigol ac ym mha le y byddai’r hebrwng yn dechrau ac yn dod i ben. O’r tablau hyn, gwyddom fod y DERBENT yn cael ei hebrwng ar deithiau byr rhwng Queenstown, Y Barri a Lerpwl yn ystod mis Hydref ac ar ddechrau Tachwedd 1917. Rhai o’r treill-longau a enwir yw’r RODNEY 653 a’r CARLEDA 1721 rhwng Queenstown a’r Barri ar 16 Hydref 1917, a’r BRECK 927 a’r RODNEY 953 rhwng Queenstown a Lerpwl ar 22 Tachwedd 1917.
Ffynhonnell:
ADM137/534. Auxiliary Patrol Weekly Reports, Areas XVIII, XIX, XX and XXI, Queenstown, 1917, July – December. ADM - Records of the Admiralty, Naval Forces, Royal Marines, Coastguard, and related bodies. The National Archives, Kew. p. 294.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment