Cerdd olaf Oliver Jones
Disgrifiadau
Roedd Oliver Jones wedi ysgrifennu ei gerdd olaf, ‘At Fardd Porth y Wawr’, a’i phostio i Gwilym Cynlais ychydig o ddyddiau cyn iddo foddi ar y BOSCAWEN.
Trawsysgrif:
At Fardd Porth y Wawr
Tra yn hwylio dros yr eigion,
Gwelaf fynydd Cymru dlos,
Yn fy lloni mewn atgofion,
Yr unygrwydd lleddf y nos;
Ton ac awel mewn cynghanedd,
Ydyw'r miwsig gaf o hyd,
Mor o ddwr yw Mor y Gogledd,-
Mor o gan yw Cymru i gyd.
Cymru, gwlad y myrdd o swynion,
Lle mae'r neint yn moli'r lor,
Mae'n anwylach i fy nghalon,
Er pan ydwyf ar y mor; o am derfyn am y rhyfel –
Croesaw foreu gweinio'r cledd,
Pan gaf rodio 'i broydd tawel—
Ymhydrydaf yn ei hedd.
Melys ydyw'r hen atgofion,
Am y delyn, am y gan;
Newydd oedd yr hen benillion,
Tra yr hwyl yn cyneu'r tan;
Mor amddifod ydwyf hebddi!
Mae cysuran lond ei llaw; Gobaith rydd addewid imi,
Am ei chwmni ddydd a ddaw.
Diolch iti, gyfaill siriol,
Am dy ddymuniadau byw,
Ceisiaf gofio yn wastadol,
Mai y "Tad sydd wrth y lyw"
Os yw'r cymyl yn yr wybren,
Heddyw'n gwgu ar y byd,
Rhaid yw meddwl ar yr heulwen,
Sydd wrth gefn y rhain i gyd.
Hapus, hapus fo dy hanes,
Yn awyrgylch Porth y Wawr,
A fy nghofion mwyaf cynes,
Lerbyn hwy yn dyrfa fawr.
Teimlaf di yn agos ataf,
Er fod rhyngom "for yn fur,"
Hyn yn wresog, ffrynd hawddganof
Oddiwrth dy gyfaill pur.
—Oliver Jones.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment