Oliver Jones, Pontardawe, bardd a chanwr, a foddodd ar y BOSCAWEN ym 1918
Disgrifiadau
Oliver Jones, 28 oed, gynnwr gyda Gwirfoddolwyr Wrth Gefn y Llynges Frenhinol, oedd mab Morgan a Sarah Jane Jones o 42 Grove Road, Pontardawe. Cyn y rhyfel buasai’n gweithio yng Ngwaith Tunplat Bryn gyda’i dad a’i frawd, Thomas Gunstone. Cymry Cymraeg oedd y teulu, a byddai Oliver a’i frawd yn ennill gwobrau’n rheolaidd yn yr eisteddfodau lleol.
Mae adroddiad papur newydd cyfoes am ei farwolaeth yn nodi bod Oliver yn fardd a chanwr adnabyddus yn lleol a oedd wedi ennill y wobr am ganu penillion (canu i gyfeiliant y delyn) yn Eisteddfod Treboeth pan oedd ar ryddhad o’r Llynges dair wythnos yn gynharach. Roedd wedi dyweddïo bryd hynny hefyd.
Ysgrifennodd y bardd cadeiriog Gwilym Cynlais (William Terry) folawd i Oliver a gyhoeddwyd yn y papur newydd Llais Llafur ar 31 Awst 1918, ac a oedd yn cynnwys y llinellau a ganlyn:
Glas yw dy Gymru'r fynud hon,
Glas yw dy fedd yn erw'r don,
Difynor, diflodyn yw mynwent mor,
Cwsg Oliver, cwsg—mae'th goffa gan lor!
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment