Skip to main content

Gwas y neidr ffosil

Disgrifiadau

Gwas y neidr ffosil. Roedd planhigion ac anifeiliaid eraill yn fyw yr un pryd a'r deinosoriaid. Drwy edrych ar eu ffosilau, gallwn ni greu darlun o'r byd yn oes y deinosoriaid. Mae gwas y neidr yn un o grŵp o bryfed sydd wedi bodoli ers cyn y deinosoriaid. Mae sgerbydau pryfed yn fregus iawn ac mae ffosilau ohonynt yn brin iawn. Yr unig reswm mae'r ffosil prydferth hwn o'r cyfnod Jwrasig wedi goroesi yw bod y pryfyn wedi disgyn i lagwn hallt gyda gwaddod iawn. Cedwir yr eitem hon yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.

Mae'r eitem hon yn rhan o Adnodd Dysgu Ditectifs Deinosor ar gyfer Cyfnod Sylfaen a Cyfnod Allweddol 2:

Owner:
Amgueddfa Cymru – National Museum Wales
Crëwr:
Unknown
Gwybodaeth drwydded
Copyright Details:
Amgueddfa Cymru – National Museum Wales 2019
Eitem wedi’i llwytho:
13/12/2018
Gwelediadau:
1540
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment