Murlun yn Nhŷ Gunter, Y Fenni, 17eg ganrif
Murlun yn Nhŷ Gunter, Y Fenni, 17eg ganrif
Disgrifiadau
Darganfuwyd y murlun hwn ym 1908 mewn atig ym Mhlas Gunter (34 - 40 Cross Street), Y Fenni.
Yn ystod ail hanner yr 17eg ganrif defnyddiodd Thomas Gunter, atwrnai a Phabydd teyrngar, ynghyd â'r Tad David Lewis a'r Tad Phillip Evans, yr atig fel capel. Bryd hynny cafodd Catholigion eu herlid ym Mhrydain ac roedd yn rhaid iddynt gyfarfod mewn mannau dirgel fel hwn. Yn ystod y don o wrthwynebiad yn erbyn y Pabyddion wedi Cynllwyn Titus Oates ym 1678, cafodd y ddau offeiriad eu crogi, eu diberfeddu a'u llosgi ym Mrynbuga.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment