Josiah John Guest AS Bart. (1785-1852) gan Joseph Edwards, 1838
Disgrifiadau
Roedd Josiah John Guest (1785-1852) yn ŵyr i fragwr, ffermwr a masnachwr glo a ddaeth yn rheolwr ar Weithfeydd Haearn Dowlais ym 1767. Etifeddodd y busnes diwydiannol hwn ym 1807 ac o dan ei reolaeth daeth yn weithfeydd haearn mwyaf y dref a'r byd o flaen Cyfarthfa, gan gynhyrchu cannoedd ar gannoedd o filltiroedd o linellau rheilffyrdd i ddiwallu'r angen yn ystod y 'Railway mania' ar ddechrau'r 19eg ganrif.
Bu'n briod ddwywaith, yn gyntaf â Maria Rankin a fu farw'n ifanc iawn ac yn ail â'r Arglwyddes Charlotte Guest a oedd yn boblogaidd iawn. Ef oedd Aelod Seneddol cyntaf Merthyr ym 1832 ac roedd yn arloeswr wrth ddarparu addysg ac adnoddau llyfrgelloedd i'w weithwyr.
Yn baradocsaidd, roedd hefyd yn credu'n gryf yn y gyfundrefn ffeirio amhoblogaidd sef talu ei weithwyr â thocynnau i'w gwario yn siopau'r cwmni yn lle cyflogau, ac yn darparu cartrefi annigonol i'w weithwyr, gyda'r canlyniad fod Dowlais yn lle gorlawn ac aflan i fyw ynddo yn ystod ei oes.
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment