Gwenyn gweithgar yn gadael y cwch
Disgrifiadau
Gwenyn gweithgar yn gadael y cwch i chwilio am fwyd. Mae gwenyn mêl yn cael eu henw am mai dyma'r rhywogaeth o wenyn sy'n gwneud mêl. Mae'r rhan fwyaf o wenyn mêl yn byw mewn tai arbennig ô'r enw cychod gwenyn ac mae pobl yn gofalu amdanynt. Rydym yn galw'r bobl hyn yn wenynwyr. Mae gwenyn mêl yn byw mewn gr?p teuluol mawr ô'r enw cytref. Yn ystod yr haf, gall fod dros 50,000 o wenyn yn byw mewn un gytref! Gwenyn gweithgar: Benywod yw'r gwenyn gweithgar i gyd. Mae miloedd o wenyn gweithgar ym mhob cytref. Maent yn gweithio'n galed yn glanhau'r cwch gwenyn, yn casglu neithdar a phaill ac yn bwydô'r larfau. Mae'r eitem hon yn rhan o Adnodd Dysgu Ddôl Drefol ar gyfer Cyfnod Sylfaen a Cyfnod Allweddol 2.https://www.casgliadywerin.cymru/learn/urban-meadow
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment