Skip to main content

Wy Gwenynen Fêl

Disgrifiadau

Wy Gwenynen Fêl. Mae gwenyn mêl yn cael eu henw am mai dyma'r rhywogaeth o wenyn sy'n gwneud mêl. Mae'r rhan fwyaf o wenyn mêl yn byw mewn tai arbennig ô'r enw cychod gwenyn ac mae pobl yn gofalu amdanynt. Rydym yn galw'r bobl hyn yn wenynwyr. Mae gwenyn mêl yn byw mewn gr?p teuluol mawr ô'r enw cytref. Yn ystod yr haf, gall fod dros 50,000 o wenyn yn byw mewn un gytref! Peiriant dodwy wyau yw'r frenhines. Yn ystod misoedd Ebrill a Mai, mae'n dodwy wyau ddydd a nos. Mae'n cymryd tuag 20 eiliad iddi ddodwy un wy ac felly mae'n gallu dodwy dros 2,000 o wyau bob dydd! Mae'r eitem hon yn rhan o Adnodd Dysgu Ddôl Drefol ar gyfer Cyfnod Sylfaen a Cyfnod Allweddol 2.https://www.casgliadywerin.cymru/learn/urban-meadow

Owner:
Nature's Little Helpers
Crëwr:
Nature's Little Helpers
Gwybodaeth drwydded
Copyright Details:
Nature's Little Helpers 2018
Eitem wedi’i llwytho:
13/12/2018
Gwelediadau:
1104
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment