Skip to main content

Braslun rhagbaratoawl ar gyfer 'Salem' gan Sydney Curnow Vosper, 1909

Disgrifiadau

'Salem' yw darn o waith enwocaf Sydney Curnow Vosper, sef portread o Siân Owen, Ty'n-y-fawnog. Prynwyd y darlun gorffenedig gan William Heskith Lever ar gyfer Oriel Gelf yr Arglwyddes Lever, ac fe'i atgynhyrchwyd ar ôl hynny mewn hysbysebion ar gyfer Sunlight Soap. Mae poblogrwydd mawr y darlun, yn enwedig yng nghymunedau diwydiannol de Cymru, wedi ei briodoli i'r teimladau hiraethus yr oedd yn dwyn i gof am ffordd o fyw a oedd yn prysur ddiflannu yn y Gymru wledig.

Nodwedd ddiddorol arall ynglŷn â'r darlun gorffenedig yw siôl yr hen wraig, oherwydd dywedir fod pen y diafol yn cuddio o fewn ei phatrwm bersli. Mae rhai pobl wedi dadlau bod y gwawdlun hwn o'r diafol yn ymgais i bortreadu balchder a rhagrith rhai Anghydffurfwyr. Fodd bynnag, roedd yr arlunydd ei hun yn gwadu bod hyn yn fwriad ganddo.

Owner:
Cyfarthfa Castle Museum & Art Gallery
Crëwr:
Sydney Curnow Vosper
Gwybodaeth drwydded
Reproduced by permission of Amgueddfa ac Oriel Gelf Castell Cyfarthfa
Copyright Details:
Amgueddfa ac Oriel Gelf Castell Cyfarthfa 2002
Publisher Ref:
GTJ01552
Eitem wedi’i llwytho:
5/2/2010
Date originally created:
1909
Gwelediadau:
4064
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment