Beic 'Facile' a oedd yn cynnwys peirianwaith gêr, tua'r flwyddyn 1885 [delwedd 1 o 2]
Disgrifiadau
Roedd y beic hwn yn welliant ar gynlluniau cynharach. Oherwydd bod maint yr olwynion yn wahanol, roedd y 'Facile' yn feic mwy diogel na'r beic 'peni-ffardding' cyffredin, traddodiadol. Roedd y peirianwaith gêr 'haul a phlanedau' yn ei gwneud yn bosibl i drawsnewid ynni'r beiciwr ar y pedalau er mwyn troi'r olwynion. Roedd y beic hefyd yn fwy diogel ac yn fwy cadarn i'w reidio. Roedd craidd disgyrchiant y beiciwr yn is gan i'r sedd gael ei symud y tu ôl i'r olwyn flaen ac roedd y pedalau wedi eu gosod ar lifrau. Roedd y beiciwr yn agosach at y ddaear felly ar y beic hwn o'i gymharu â'r beic cyffredin traddodiadol, ond roedd yn dal yn medru cyrraedd y pedalau a oedd yn gyrru'r olwyn fawr flaen.
Yn ôl hysbyseb gan y gwneuthurwr, roedd gan y beic hwn y manteision canlynol:
'We claim the following advantages for this machine:
Ease of Learning - There are many who would like to ride a bicycle but fear they could not acquire the balance. With the 'Geared Facile' learning is really no trouble. With a little judicious assistance anyone who has the full use of his limbs may learn to balance and ride alone for, say, a few hundred yards in from ten minutes to an hour'.
Ffynonellau: Amgueddfa Wilson, Arberth a'r Amgueddfa Wyddoniaeth/Llyfrgell Luniau Gwyddoniaeth a Chymdeithas (Science Museum/Science & Society Picture Library) (<a href="http://www.nmsi.ac.uk/piclib/imagerecord.asp?id=10308238">http://www.nms...)
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment