Hysbysfwrdd E. J. Morgan, crydd, gydag arfbais Urdd y Cryddion, tua'r flwyddyn 1800
Hysbysfwrdd E. J. Morgan, crydd, gydag arfbais Urdd y Cryddion, tua'r flwyddyn 1800
Disgrifiadau
Fe ymddengys bod yr arfbais ar y bwrdd hwn yn seiliedig ar un Urdd y Cryddion; mae eu harfbais i'w gweld ar y fynedfa i'w capel yng Nghadeirlan Aberhonddu. Mae'r arwyddair Lladin 'Vincit Omnia Veritas' yn cyfieithu 'mae gwirionedd yn gorchfygu popeth'. Y portreadau yw'r cynhalwyr yn ôl pob tebyg, ac mae pob un yn dal esgidiau. Roedd Edwin J. Morgan yn grydd yn Stryd y Farchnad, Y Gelli Gandryll, yn ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae enwau newydd wedi'u peintio dros yr enwau cynnar.
[Ffynhonnell: Amgueddfa ac Oriel Gelf Brycheiniog]
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment