'Canwyll y Cymry' gan Rhys Pritchard: cyfieithiad i'r Saesneg, 1771, tudalen flaen [delwedd 1 o 58]
Disgrifiadau
Ceir yma ddetholiad o dudalennau o gyfieithiad i'r Saesneg o 'Canwyll y Cymry' gan Rhys Pritchard (1579-1644). Cyhoeddwyd rhai o'r penillion hyn yn wreiddiol gan Stephen Hughes, gweinidog Piwritanaidd, a daeth y gyfrol 'Canwyll y Cymry' a gyhoeddwyd ym 1681, cyn bwysiced yn hanes y werin a'r cyfieithiad o 'Taith y Pererin' gan John Bunyan.
Roedd Rhys Prichard yn frodor o Lanymddyfri, Sir Gaerfyrddin, lle bu'n weinidog am rai blynyddoedd. Mae dylanwad y Beibl a'r Llyfr Gweddi Gyffredin yn gryf ar ei benillion ac amcan yr awdur oedd ymgorffori bywyd gwledig o fewn fframwaith ac erthyglau ffydd yr Eglwys Sefydledig. Pwysleisiai mai'r modd i foli Duw oedd trwy weithio'n galed, anrhydeddu'r Brenin ac ufuddhau i awdurdod. Anelodd ei benillion, at ymysg eraill, ffermwyr, teithwyr, milwyr, meddwon a godinebwyr gyda theitlau fel 'Cyngor i'r dyn ifanc cyn iddo fynd i garu'.
Cyfieithwyd y gyfrol i'r Saesneg gan William Evans, ficer Llanhuadain, sir Benfro ym 1771 ac fe'i hargraffwyd gan John Ross, dyn a gafodd ddylanwad enfawr ar gwrs hanes argraffu yng Nghymru. Gyda phrofiad o argraffu mewn gweithdy yn Llundain, John Ross oedd y cyntaf o genhedlaeth o argraffwyr proffesiynol a fyddai'n cymryd lle'r amaturiaid a oedd wedi bod wrthi tan hynny.
Ffynonellau:
Meic Stephens (gol.), 'Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru' (Caerdydd, 1992); Phillip Henry Jones ac Eiluned Rees (gol.), 'A Nation and its Books: a history of the book in Wales' (Aberystwyth, 1998)
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment