Medal / Plac Efydd er cof am William Watkin Roberts o Borth y Gest
Medal / Plac Efydd er cof am William Watkin Roberts o Borth y Gest
Disgrifiadau
Ganwyd William Watkin Roberts yn 1871, yn aelod o deulu morwrol adnabyddus.
Yr oedd yn feistr a pherchennog y sgwner tri hwylbren " John Pritchard " . Suddwyd y llong hon gan long danfor Awstria ym Môr y Canoldir Ebrill 1916 - goroeswyd y criw .
Ar ôl sbel gartref , gyda gwraig a chartref i gefnogi, cymerodd swydd fel Ail Swyddog ar SS Highbury yn eiddo Watts Watt cyf Llundain .
Suddwyd y llong gan U- 82 ar 14 Mehefin 1917 ar fordaith o Antofagasta i Benbedw â nitradau . Collwyd yr holl griw.
Cafodd ei gorff ei olchi fyny ar arfordir Iwerddon ac fe'i claddir ym mynwent gyhoeddus Porthmadog.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment