Cysylltiad Porthmadog gyda’r LUISITANIA
Disgrifiadau
Cafodd llong deithwyr Cunard LUISITANIA ei dorpido gan long danfor yr Almaen U20 ar 7 Mai 1915, 11 milltir oddi wrth oleudy Old Head of Kinsale ar arfordir Iwerddon. Allan o 1,959 o deithwyr a chriw, cafodd 1,198 o bobl eu boddi, gan gynnwys 128 o Americanwyr. Achosodd suddo’r llong ddicter, gyda’r llywodraeth Prydain yn honni ei bod hi'n llong fasnach diamddiffyn ac nad oedd yn cario deunydd rhyfel. Ar yr adeg hon roedd Unol Daleithiau America yn niwtral ond oherwydd fe gollodd 128 o ddinasyddion dechreuodd deimlad y cyhoedd tyfu yn erbyn yr Almaen ac ymunodd yr U.D.A. yn ddiweddarach â'r rhyfel ar ochr y cynghreiriaid. Ymhlith y criw roedd tri dyn lleol - John Idwal Lewis - Trydydd Swyddog. Ganed Porthmadog 1885 William Williams, Meistr yr Arfau. Ganed Tremadog, 1869 Robert Henry Duncan. Roedd y Trydydd Peiriannydd yn gysylltiedig â phriodas i deulu Porthmadog Goroesodd y tri ar ôl treulio sawl awr yn y dŵr. Nid mor ffodus oedd Walter Mclean, dyn busnes oedd yn teithio dosbarth cyntaf, a gafodd ei foddi. Fe'i ganed ym Mhorthmadog ac roedd ei fam yn byw yno ar adeg y trychineb
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment